Gwnaf jest fynd cam yn ôl, os gallaf i, i ddweud bod y polisi rhyddhau i asesu yn asesiad o anghenion y claf, ond wedyn mae'r asesiad sy'n cael ei wneud o ofalwr yn asesiad sy'n dod o dan y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, sydd yn wahanol. Fel wnaeth Jake sôn yn gynharach, yr hyn sy'n bwysig ynglŷn â hynny, wrth gwrs, yw adnabod bod yna ofalydd yn bodoli yn y system yna yn y lle cyntaf. Mae'n bwysig ein bod ni'n parhau i sicrhau ein bod ni'n adnabod y gofalwyr yna yn y lle cyntaf.
Gwnaf hefyd ddweud bod ein gwasanaethau gofalwyr ni wedi dweud wrthym ni eu bod nhw yn cael llai o gyfeiriadau ar gyfer gofalwyr ar hyn o bryd, ond bod gan y gofalwyr yna sy'n dod atyn nhw anghenion mwy cymhleth. So, mae rhywbeth yn digwydd fanna ynghylch y system—ein bod ni ddim yn adnabod digon o bobl, digon o ofalwyr, ond pan rŷn ni yn dod i'w hadnabod nhw, mae anghenion dwys ganddyn nhw.
O ran y polisi rhyddhau i asesu, a sut mae hynny'n gweithio mas o ran lleoliadau gofal preswyl a chartrefi gofal, rŷn ni wedi clywed gan ofalwyr—eto, mae hwn yn dod lawr i gyfathrebu, wrth gwrs—bod y cyfathrebu yna ddim yn digwydd yn ystod y broses rhyddhau o'r ysbyty, eu bod nhw ddim yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd iddyn nhw, ac oherwydd bod COVID wedi golygu ein bod ni'n trio rhyddhau yn glou iawn, dyw'r dewis yna, dyw'r sgwrs yna, ddim yn digwydd o ran lle mae lleoli'r person yna pan maen nhw'n ddigon iach i ddod mas o'r ysbyty. Felly, maen nhw'n mynd i'r lle cyntaf lle mae yna le iddyn nhw, wrth gwrs. Rŷn ni'n deall bod hwnna'n bwysig o ran y pwysau, ond mae yna gonsérn ehangach, onid oes, o ran y gofalydd.
Rŷn ni wedi clywed sawl esiampl lle mae'r claf wedi cael ei ryddhau i gartref gofal sydd yn bell o'r gofalydd, neu dyw'r gofalydd ddim yn ymwybodol o'r goblygiadau o ran eu harian nhw ac o ran taliadau, o ran y cartref gofal yna. Felly, dwi'n meddwl mai'r prif bwynt rŷn ni'n dod yn ôl ato fe yw'r cyfathrebu yna. Dyw'r cyfathrebu sy'n digwydd o ran y polisi rhyddhau i asesu ddim o reidrwydd yn cynnwys y gofalydd yn y sgwrs yna. Felly, mae penderfyniadau'n cael eu gwneud hebddyn nhw, heb eu bod nhw'n rhan o'r sgwrs yna, ac wedyn mae yna oblygiadau lawr y ffordd, sydd yn gallu bod yn ariannol ond yn gallu bod yn rhai ymarferol o ran cyrraedd y person maen nhw'n gofalu amdanyn nhw yn y lleoliad yna.