Finance Committee
- Dechrau
- 09:30
- Cyfraniadau
- 175
- Geiriau a lefarwyd
- 17,389
Agor y cyfarfod
Cyfarfu’r pwyllgor drwy gynhadledd fideo.
Dechreuodd y cyfarfod am 09:30.
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Bore da iawn i chi i gyd a chroeso cynnes i'r cyfarfod y bore yma. Mae'n dda bod yma efo chi. Jest o ran y cofnodion, bydd hwn yn cael ei ddarlledu ar Senedd.tv a bydd Cofnod o'r Trafodion ar gael i'r cyhoedd fel arfer. Ar wahân i'r addasiad gweithdrefnol sy'n ymwneud â chynnal trafodion o bell, mae holl ofynion eraill y Rheolau Sefydlog ar gyfer pwyllgorau yn parhau. Rydyn ni angen nodi y bore yma fod Peter Fox yn gyrru ymddiheuriadau, ond rydyn ni'n falch iawn o weld Gareth Davies yma efo ni yn ei gyfarfod cyntaf efo'r pwyllgor yma. Diolch yn fawr iddo fo am gamu i'r adwy a dod i mewn i gymryd rhan y bore yma. Jest yn sydyn, oes gan unrhyw un unrhyw fuddiannau i'w datgan? Rydw i'n aelod o Gyngor Cymuned Pen-yr-heol, Trecenydd ac Eneu'r-glyn, ond dyna i gyd, jest rhag ofn bod hwnna'n dod i fyny. Dwi'n gwybod bod Gareth yn aelod o gyngor Dinbych, dwi'n meddwl.