Cyfraith Molly: trwyddedu gorfodol, arolygiadau, cofrestr gyhoeddus, a chosbau go iawn i ddiogelu anifeiliaid anwes.
Ar agor i'w llofnodi tan 22 Ebrill 2027.
6 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Rydym yn galw am gyflwyno Cyfraith Molly, yn seiliedig ar ein profiad personol o dor calon. Fe adawon ni Molly, ein Labrador euraidd annwyl, gyda darparwr gofal anifeiliaid anwes didrwydded, a ddaeth hi ddim adref. O’i cholli, fe welsom fod bwlch peryglus: dyw hi ddim yn hawdd i berchnogion anifeiliaid anwes wybod pwy sydd wedi’i drwyddedu a’i arolygu, ac yn gweithredu’n unol â safonau lles. Wrth i’r galw am ofal dydd i anifeiliaid anwes ac am eu lletya yn y cartref gynyddu, felly hefyd y risg y gall gweithredwyr didrwydded honni bod yn “broffesiynol”. Mae Cyfraith Molly yn galw am safonau clir, arolygiadau rheolaidd, cosbau go iawn, a chofrestr gyhoeddus er mwyn i deuluoedd allu gwirio’n gyflym pa mor addas yw pob darparwr gofal anifeiliaid anwes.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 6 o'r 6 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Casnewydd Islwyn | 6 |