Mynnu labelu clir i ddangos a gafodd anifeiliaid eu stynio ai peidio cyn eu lladd
Ar agor i'w llofnodi tan 25 Rhagfyr 2026.
130 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno labelu gorfodol ar yr holl gig sy’n cael ei werthu yng Nghymru i nodi a gafodd yr anifail ei stynio ai peidio cyn ei ladd. Mae'r Awdurdod Safonau Bwyd eisoes yn cofnodi statws stynio ym mhob lladd-dy cymeradwy trwy Filfeddygon Swyddogol, archwiliadau a chamau i fonitro lles.
Fodd bynnag, ni chaiff y wybodaeth hon ei throsglwyddo i ddefnyddwyr. Mae hwn yn fater clir o les anifeiliaid sydd o ddiddordeb i'r cyhoedd.
Rhagor o fanylion
Mae labelu bwyd wedi'i ddatganoli i Gymru, sy'n golygu bod gan Lywodraeth Cymru y pŵer i weithredu'n annibynnol. Felly, mae gan Gymru gyfle gwirioneddol i fod ar flaen y gad yn foesegol drwy sicrhau tryloywder, gwella dewis i ddefnyddwyr, a dangos ymrwymiad i leihau creulondeb yn y gadwyn fwyd. Byddai labelu gorfodol i ddangos statws stynio yn:
darparu gwybodaeth glir a gonest i ddefnyddwyr;
gwella tryloywder ynghylch lles anifeiliaid;
caniatáu i bobl wneud dewisiadau moesegol gwybodus;
defnyddio ddata sydd eisoes wedi'u casglu mewn lladd-dai;
dangos Cymru fel cenedl sy'n barod i arwain ar safonau lles.
Nid yw'r cynnig hwn yn cyfyngu ar ladd anifeiliaid ar seiliau crefyddol. Yn syml, mae’n sicrhau bod defnyddwyr yn cael y wybodaeth berthnasol.
Gofynnwn i Lywodraeth Cymru adolygu'r mater hwn a chyflwyno gofyniad cymesur i labelu mewn ffordd sy'n seiliedig ar dystiolaeth, fel y gall pobl yng Nghymru wneud dewisiadau cwbl wybodus am y bwyd maen nhw'n ei brynu.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 99 o'r 130 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Bangor Conwy Môn | 68 |
| Gwynedd Maldwyn | 4 |
| Afan Ogwr Rhondda | 3 |
| Blaenau Gwent Caerffili Rhymni | 3 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 3 |
| Ceredigion Penfro | 3 |