Galw i gadw’r holl oleuadau stryd ymlaen ar ôl iddi dywyllu i’w gwneud yn fwy diogel i fenywod gerdded a rhedeg.
Ar agor i'w llofnodi tan 10 Ebrill 2027.
4 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae llawer o fenywod a merched yn osgoi cerdded neu redeg ar ôl iddi dywyllu oherwydd eu bod yn teimlo'n anniogel pan fydd strydoedd a llwybrau wedi'u goleuo'n wael neu pan fydd goleuadau wedi'u diffodd. Gall goleuadau stryd da ei gwneud yn haws i bobl weld a’u helpu i deimlo’n fwy diogel wrth deithio ar droed. Rydym am i Lywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod goleuadau stryd yn aros ymlaen ar ôl iddi dywyllu.
Rhagor o fanylion
Mae'r ddeiseb hon yn cefnogi ymgyrch Athletau Cymru Ein Nos Ni / Own The Night, sy'n tynnu sylw at bryderon menywod am ddiogelwch wrth redeg yn y nos neu’n gynnar yn y bore. Mae Athletau Cymru wedi galw am lwybrau mwy diogel, wedi'u goleuo'n dda i redwyr. Byddai cadw goleuadau stryd ymlaen ar ôl iddi dywyllu yn helpu i fynd i'r afael â'r mater hwn ac yn ei gwneud yn haws i fenywod gerdded, rhedeg ac ymarfer corff yn ddiogel yn eu cymunedau lleol.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 4 o'r 4 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Sir Fynwy Torfaen | 4 |