Gwneud Camerâu a Wisgir ar y Corff yn Orfodol i Weithwyr Cymdeithasol yng Nghymru
Ar agor i'w llofnodi tan 30 Mawrth 2027.
131 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Pan fydd penderfyniadau yn gallu newid bywyd plentyn am byth, dylai fod cofnod cywir o'r hyn a ddigwyddodd.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud camerâu a wisgir ar y corff yn orfodol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sy'n cynnal ymweliadau cartref, ymholiadau amddiffyn plant ac asesiadau teuluol.
Ar hyn o bryd, mae arsylwadau a sgyrsiau hollbwysig yn cael eu cofnodi ar ffurf nodiadau achos, asesiadau ac adroddiadau. Mae plant yn rhy bwysig i benderfyniadau diogelu ddibynnu yn llwyr ar gofio a gwaith papur.
Rhagor o fanylion
Mae marwolaethau Logan Mwangi yng Nghymru a Sara Sharif yn Lloegr yn ein hatgoffa mewn ffordd ysgytwol pam mae’n rhaid i systemau diogelu greu’r darlun cliriaf a mwyaf cywir posibl o amgylchiadau plentyn.
Gallai camerâu a wisgir ar y corff sicrhau tryloywder hanfodol. Gallent gadw cofnod gwirioneddol o’r hyn mae gweithwyr proffesiynol yn ei weld, gallent nodi anghysondebau mewn adroddiadau dilynol, gallent amddiffyn teuluoedd rhag cofnodi anghywir, a gallent amddiffyn gweithwyr cymdeithasol rhag honiadau ffug.
Ond, yn anad dim, mae hyn yn ymwneud ag amddiffyn plant.
Mae swyddogion heddlu yn defnyddio camerâu a wisgir ar y corff oherwydd bod tystiolaeth, cywirdeb ac atebolrwydd yn bwysig. Pan fydd gweithwyr cymdeithasol yn mynd i gartrefi plant ac yn cynnal asesiadau a all ddylanwadu ar benderfyniadau diogelu a fyddai’n newid bywydau, mae'r egwyddorion hynny yr un mor bwysig.
Rhaid i fesurau diogelu priodol amddiffyn preifatrwydd plant a rheoli'n llym sut mae’r recordiadau’n cael eu storio, eu cyrchu a'u defnyddio. Os yw'n ddigon pwysig i newid bywyd plentyn, mae'n ddigon pwysig i'w gofnodi.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 119 o'r 131 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Ceredigion Penfro | 26 |
| Pen-y-bont Bro Morgannwg | 19 |
| Caerdydd Penarth | 17 |
| Afan Ogwr Rhondda | 11 |
| Sir Fynwy Torfaen | 8 |
| Gŵyr Abertawe | 7 |
| Pontypridd Cynon Merthyr |