Gwneud archwiliadau meddygol safonol yn ofynnol ar ôl hysterectomi: 6 mis a 12 mis yn orfodol.
Ar agor i'w llofnodi tan 21 Mawrth 2027.
28 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Rydym am i’r Llywodraeth ei gwneud yn ofynnol i’r GIG ddarparu archwiliadau meddygol strwythuredig a rheolaidd 6 mis a 12 mis ar ôl llawdriniaeth i bob claf sydd wedi cael hysterectomi, beth bynnag fo’u hoedran, er mwyn monitro eu hadferiad corfforol, hormonaidd a seicolegol.
Rhagor o fanylion
Mae llawer o gleifion sy’n cael hysterectomi yn cael eu rhyddhau o ofal llawfeddygol ar ôl un archwiliad chwe wythnos yn unig, neu’n cael eu trosglwyddo’n llwyr i ofal sylfaenol heb adolygiad wedi’i drefnu. Mae hysterectomi yn llawdriniaeth fawr sy’n newid bywyd, gyda goblygiadau parhaol anatomegol, hormonaidd a seicolegol. Gall methu â darparu apwyntiadau dilynol strwythuredig olygu na chaiff cymhlethdodau llawr y pelfis, menopos llawfeddygol heb ei reoli, poen a achosir gan adlyniadau, a gofid emosiynol difrifol eu nodi na’u trin.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 17 o'r 28 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Clwyd | 9 |
| Gŵyr Abertawe | 2 |
| Bangor Conwy Môn | 1 |
| Blaenau Gwent Caerffili Rhymni | 1 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 1 |
| Caerdydd Ffynnon Taf | 1 |
| Casnewydd Islwyn |