Goruchwyliaeth Annibynnol a Safonau Cryfach ynghylch Tystiolaeth yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Cymru
Ar agor i'w llofnodi tan 23 Mawrth 2027.
101 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae angen safonau cryfach ynghylch tystiolaeth, dull tryloyw o gadw cofnodion a goruchwyliaeth wirioneddol annibynnol ar y gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Mae angen diwygiadau i sicrhau bod penderfyniadau sy'n effeithio ar blant a theuluoedd yn atebol, yn cydymffurfio â hawliau, yn ystyriol o drawma ac yn seiliedig ar dystiolaeth gywir a fu’n destun gwaith craffu priodol.
Rhagor o fanylion
Mae'r prif newidiadau sydd eu hangen i gryfhau fframwaith y gwasanaethau cymdeithasol yn cynnwys:
• Safonau clir ynghylch tystiolaeth sy'n gwahaniaethu rhwng ffeithiau sydd wedi eu dilysu, honiadau y mae anghytuno yn eu cylch a barn gweithwyr proffesiynol.
• Cyfle ystyrlon i rieni gyfranogi, mynediad amserol at gofnodion, a gwaith effeithiol i graffu ar anghysondebau ffeithiol cyn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar fywyd teuluol.
• Prosesau goruchwylio ac adolygu gwirioneddol annibynnol pan fo tystiolaeth graidd neu gasgliadau proffesiynol yn cael eu herio.
• Dull manwl gywir o gofnodi ac ystyried dymuniadau a theimladau plant a’u perthnasoedd teuluol.
• Dyletswyddau statudol clir sy'n cefnogi tryloywder, mynediad at dystiolaeth a hawliau gweithdrefnol.
• Mynediad at arbenigwyr cam-drin domestig annibynnol sydd wedi'u hyfforddi'n addas ar gyfer achosion perthnasol, gan gefnogi arfer cyfredol sy'n ystyriol o drawma.
Dylai'r broses weithredu gynnwys dyletswyddau statudol cryfach, canllawiau cadarn i ymarferwyr, hyfforddiant gorfodol ar werthuso tystiolaeth, ac amserlenni rhesymol i deuluoedd herio’r cofnodion sylfaenol.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 71 o'r 101 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Caerdydd Penarth | 48 |
| Caerdydd Ffynnon Taf | 18 |
| Casnewydd Islwyn | 1 |
| Ceredigion Penfro | 1 |
| Pen-y-bont Bro Morgannwg | 1 |
| Pontypridd Cynon Merthyr | 1 |