Atal unrhyw gamau sy’n arwain at golli gwelyau a chyfleusterau, yn ogystal â chau ysbytai cymunedol, o ganlyniad i’r adolygiad o ofal iechyd gwledig ym Mhowys
Ar agor i'w llofnodi tan 22 Mawrth 2027.
10,403 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddWedi'i gyrraedd
Nid cau pob un ond 60 o welyau ysbytai cymunedol dan arweiniad meddygon teulu ym Mhowys, lle nad oes ysbyty cyffredinol na hosbis, yw'r ffordd o ddarparu gofal. Mae’n rhaid ailystyried gofal iechyd mewn ardaloedd gwledig yn radical, yn hytrach na gwneud toriadau llym.
Rwy'n galw ar y Senedd a'r Gweinidog Iechyd i ddechrau ymchwiliad llawn a chynnal dadl ar gamau i ddarparu a chyflenwi gofal iechyd mewn ardaloedd gwledig, ac i sicrhau nad oes unrhyw newid yn nifer y gwelyau, y gwasanaethau na'r ysbytai ym Mhowys cyn i’r gwaith hwn gael ei wneud. Mae’n rhaid i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol bob amser. Mae atal yn well na gwella, ac mae pob un ohonom am gael gofal yn nes at adref, gan fyw'n annibynnol yn ein cartrefi ein hunain a chael gofal brys neu ofal mewn ysbyty cyffredinol pan fydd ei angen arnom.
Rhagor o fanylion
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) mewn trafferthion ariannol: https://herald.wales/mid-wales/powys/powys-health-board-records-33m-deficit-withdraw-delivering-savings-targets/.
Er y bydd mesurau ataliol yn helpu i leihau costau yn y tymor hir, ymddengys mai ateb tymor byr BIAP yw cael dim ond 60 o welyau ym Mhowys a chau ysbytai cymunedol - https://www.bbc.co.uk/news/articles/c9w0jj2lgn4o.
Nid oes ysbyty cyffredinol dosbarth ym Mhowys. Yn y cyd-destun hwn, mae cwtogi ar wasanaethau lleol presennol yn golygu mwy o deithio, colli apwyntiadau, dirywiad mewn iechyd, mwy o dderbyniadau brys, mwy o gostau i’r GIG ac iechyd gwaeth ymhlith y boblogaeth. Mae angen ailystyried gofal iechyd mewn ardaloedd gwledig yn radical, gan osgoi toriadau eithafol i gyrraedd targedau ariannol. Ein hiechyd ni sy'n dod yn gyntaf!
Mae crynodeb "Gwella Gyda'n Gilydd" ar gael isod: https://biap.gig.cymru/amdanom-ni/gwella-gydan-gilydd/
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 9,856 o'r 10,403 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Gwynedd Maldwyn | 5,874 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 3,255 |
| Ceredigion Penfro | 331 |
| Sir Gaerfyrddin | 85 |
| Gŵyr Abertawe | 45 |
| Sir Fynwy Torfaen | 38 |
| Caerdydd Penarth |