Rhoi pwerau cyflymach a chryfach i gynghorau i atal dympio anghyfreithlon a datblygu anawdurdodedig.
Ar agor i'w llofnodi tan 15 Mawrth 2027.
1,522 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae cymunedau ledled Cymru yn gweld tir yn cael ei glirio, rwbl a gwastraff yn cael eu tipio, a llwybrau mynediad yn cael eu creu dros benwythnos, a hynny heb rybudd na chaniatâd cynllunio. Erbyn i gamau gorfodi gael eu cyflawni, bydd y drwg wedi cael ei wneud. Gellir apelio yn erbyn hysbysiadau, mae pwerau dros dro yn mynd yn ddi-rym ar ôl 28 diwrnod, ac mae gwaharddebau’n gofyn am amser ac arian cyhoeddus sydd weithiau y tu hwnt i awdurdodau lleol.
Rhagor o fanylion
Mae Coedpoeth a'r Mwynglawdd wedi dioddef oherwydd gwaith anawdurdodedig a gwastraff yn cael ei ddympio’n anghyfreithlon ar gyn-weithfeydd mwyngloddio ger tirwedd warchodedig, gyda lorïau'n tipio gwastraff yn ystod y nos. Mae hyd yn oed hysbysiadau stop dros dro wedi methu ag atal hyn, sy’n dangos nad yw pwerau gorfodi cynllunio yn addas at y diben. Mae’r un patrwm i’w weld ledled cefn gwlad Cymru.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi mesurau yn Lloegr i gau safleoedd gwastraff anghyfreithlon, gan gynnwys dronau, mwy o swyddogion i Asiantaeth yr Amgylchedd, a dirwyon llawer uwch. Mae gwastraff a chynllunio yn feysydd datganoledig, felly mae modd i Lywodraeth Cymru gymryd camau tebyg a chau'r bwlch cynllunio sy'n gadael i safleoedd o'r fath agor yn y lle cyntaf.
Rydym yn galw ar y Senedd i annog Llywodraeth Cymru i gryfhau camau gorfodi ym maes cynllunio, gan gynnwys: hysbysiadau stop estynadwy; dileu cyd-fantoli risg; cosbau llymach, gyda phwerau i atafaelu cerbydau; adennill costau ar gyfer adfer; a dyletswydd i gydweithio ar awdurdodau, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r heddlu.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 1,420 o'r 1,522 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Fflint Wrecsam | 1,082 |
| Gwynedd Maldwyn | 109 |
| Clwyd | 90 |
| Bangor Conwy Môn | 47 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 26 |
| Ceredigion Penfro | 19 |
| Sir Gaerfyrddin |