Ysbyty Cyffredinol ar gyfer Powys
Ar agor i'w llofnodi tan 7 Mawrth 2027.
576 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Powys yw'r sir fwyaf yng Nghymru ac mae'n sir wledig yn bennaf, sy'n dibynnu llawer ar hyn o bryd ar Fyrddau Iechyd y tu allan i'r sir. Ar hyn o bryd rydym yn ymwybodol o oedi mewn darpariaeth drawsffiniol ac anawsterau ariannu; a gostyngiadau o ran oriau mewn unedau mân anafiadau. Ar hyn o bryd mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) yn ystyried awgrymiadau a dulliau o arbed £23 miliwn. Gallai'r cynigion hyn arwain at ostyngiad yn y ddarpariaeth ofal yn y sir. DYLEN NI FOD YN EDRYCH AR GYNYDDU’R DDARPARIAETH NID GOSTYNGIAD.
Rhagor o fanylion
Ar hyn o bryd nid oes gan Bowys fel sir unrhyw ddarpariaeth ysbyty cyffredinol. Mae pob mater brys a gofal iechyd mawr yn cael ei drin y tu allan i'r sir. Gyda’r cyfrif gwelyau y pen ar hyn o bryd yn tua 1.2 fesul 1,000 o drigolion, mae hyn yn hanner cyfartaledd y DU o 2.4. Mae'n debygol y bydd y ddarpariaeth hon mewn gwelyau yn lleihau ymhellach os daw'r cynnig gofal iechyd dwy uned i rym. (Y Drenewydd ac Aberhonddu). Byddai Ysbyty Cyffredinol: yn cynyddu'r ddarpariaeth gwelyau ym Mhowys, yn lleihau amseroedd teithio. yn lleihau'r ddibyniaeth ar welyau y tu allan i'r sir. hefyd yn lleihau'r prinder gwelyau presennol yn y sir sydd ar hyn o bryd yn blocio gwelyau mewn byrddau iechyd eraill, oherwydd prinder gwelyau ym Mhowys. Cyfaddefiad y Bwrdd ei hun yw bod angen 400 o welyau ar y sir, ac ar hyn o bryd mae tua 160!!! Os byddai'n cael ei weithredu’n gywir, efallai y gallai’r Bwrdd hyd yn oed gynnig lle mewn gwelyau i fyrddau iechyd cyfagos y mae pob ysbyty yn erfyn amdano, gan gynhyrchu incwm!! Dylen ni fod yn chwilio am resymau pam y dylid cynyddu darpariaeth gofal iechyd Powys.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 556 o'r 576 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Gwynedd Maldwyn | 326 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 202 |
| Sir Gaerfyrddin | 6 |
| Ceredigion Penfro | 5 |
| Sir Fynwy Torfaen | 4 |
| Gŵyr Abertawe | 3 |
| Pen-y-bont Bro Morgannwg |