Galw pôl ar Sero Net 2040
Ar agor i'w llofnodi tan 1 Mawrth 2027.
154 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer Sero Net 2040 (10 mlynedd cyn amserlen bresennol Llywodraeth y DU) yn amhosibl eu cyflawni a gallant niweidio cymunedau, busnesau a chefn gwlad Cymru.
Rhagor o fanylion
Mae'n amlwg bod yr agenda sero net yn cwympo ledled y byd wrth i wledydd ddod i ddeall ei bod yn hynod ddrud.
Mae ideoleg Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar fodelu hinsawdd diffygiol, astudiaethau sydd wedi dyddio a chamwybodaeth ynghylch effeithiau a chostau.
Mae Claire Courtinho AS, Gweinidog Ynni yr Wrthblaid yn y DU, wedi amlygu bod Adran Diogeledd Ynni a Sero Net y DU, NESO (Gweithredwr y System Ynni Genedlaethol) ac Ofgem wedi tanamcangyfrif prisiau ynni adnewyddadwy gymaint â 300%.
Yn waeth na hynny, mae chwythwyr chwiban yn cael eu tewi a'u disgyblu wrth dynnu sylw at freuder y cyflenwad trydan sy'n dibynnu ar ynni adnewyddadwy a mewnforion.
Rhaid i Gymru beidio â chyfrannu at ddinistrio ein treftadaeth, ein tirwedd a'n natur yn enw ideoleg ddiffygiol iawn.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 151 o'r 154 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Ceredigion Penfro | 28 |
| Sir Gaerfyrddin | 27 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 23 |
| Gwynedd Maldwyn | 19 |
| Afan Ogwr Rhondda | 11 |
| Caerdydd Ffynnon Taf | 9 |
| Clwyd |