Datblygu Cynllun Iechyd Dynion i Gymru
Ar agor i'w llofnodi tan 20 Chwefror 2027.
320 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae dynion yng Nghymru yn wynebu anghydraddoldebau iechyd sylweddol, gan gynnwys disgwyliad oes is a chyfraddau marwolaeth cynnar yn sgil llawer o achosion blaenllaw.
Hefyd gall dynion fod yn llawer llai tebygol o droi at wasanaethau iechyd a chael cymorth pan fydd ei angen arnynt.
Gallai Cynllun Iechyd Dynion cydgysylltiedig fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn, helpu i atal problemau ac ymyrryd yn gynnar, a sicrhau bod gwasanaethau’n gwneud yn well o ran diwallu anghenion dynion ledled Cymru.
Rhagor o fanylion
Dylai Cynllun Iechyd Dynion fabwysiadu dull cyfannol at iechyd corfforol a meddyliol dynion, gan gydnabod y rhyng-gysylltiad rhwng yr elfennau hyn.
Dylai ystyried meysydd fel iechyd meddwl ac atal hunan-laddiad, canser a chlefyd cardiofasgwlaidd, camddefnyddio sylweddau, ffyrdd iach o fyw, ynysu cymdeithasol, mynediad at ofal iechyd, a phenderfynyddion cymdeithasol ehangach o ran iechyd.
Dylai’r Cynllun nodi’r anghydraddoldebau y mae gwahanol ddynion yn eu hwynebu a gosod blaenoriaethau clir a chamau gweithredu mesuradwy ar gyfer gwella canlyniadau. Dylai’r gwaith o’i ddatblygu gynnwys dynion, gweithwyr iechyd proffesiynol, ymchwilwyr a sefydliadau perthnasol y trydydd sector.
Mae gwledydd fel Iwerddon, Awstralia a Lloegr wedi datblygu strategaethau cenedlaethol ar gyfer iechyd dynion, ac mae Canada a Seland Newydd yn datblygu dulliau tebyg.
Gall a dylai Cymru ddysgu o’r enghreifftiau hyn a datblygu cynllun sy’n addas i anghenion dynion yng Nghymru.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 312 o'r 320 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Brycheiniog Tawe Nedd | 94 |
| Caerdydd Ffynnon Taf | 49 |
| Pen-y-bont Bro Morgannwg | 42 |
| Afan Ogwr Rhondda | 34 |
| Sir Gaerfyrddin | 15 |
| Caerdydd Penarth | 14 |