Dyrannu 10% o’r gyllideb drafnidiaeth i seilwaith beicio o'r safon orau yn y byd drwy Drafnidiaeth Cymru
Ar agor i'w llofnodi tan 18 Chwefror 2027.
27 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae Cymru wedi gwneud deddfwriaeth arloesol drwy'r Ddeddf Teithio Llesol. Fodd bynnag, mae cynnydd ar seilwaith beicio wedi dod i ben oherwydd diffyg buddsoddi cynaliadwy a gwaith cynllunio araf. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru a'r Senedd i ddyrannu o leiaf 10% o’r gyllideb drafnidiaeth ar seilwaith beicio, gan ei gwneud yn ofynnol i gynghorau weithio gyda changen newydd Trafnidiaeth Cymru (TrC) i adeiladu seilwaith beicio parhaus o ansawdd uchel i’r safonau gorau yn y byd, gan gynnwys egwyddorion CROW yr Iseldiroedd. Mae Trafnidiaeth Cymru eisoes yn gweithio gyda chynghorau a chymdeithasau tai i ddatblygu rhai darpariaethau teithio llesol, ond nid ydynt yn adeiladu nac yn cynnal a chadw'r rhan fwyaf o lwybrau beicio yng Nghymru. Drwy ddatblygu adran seilwaith feicio newydd o fewn TrC, un y mae'n ofynnol i gynghorau gydweithio â hi wrth gynnal a chadw priffyrdd ac uwchraddio ein rhwydwaith ffyrdd, credwn y gallwn sicrhau seilwaith beicio wedi'i ariannu'n llawn ac wedi'i integreiddio'n iawn ar bob cyfle - gyda TrC yn darparu'r cyllid, a’r arbenigedd angenrheidiol o ran cynllunio ac adeiladu o dan un to ac o fewn cyllideb y llywodraeth.
Rhagor o fanylion
Mae Llawlyfr Dylunio CROW ar gyfer Traffig Beiciau yn ddogfen uchel ei pharch y cyfeirir ati ledled y byd, a chaiff ei defnyddio’n ddyddiol gan gynllunwyr trafnidiaeth yn yr Iseldiroedd i integreiddio seilwaith beicio yn effeithiol fel prif ffurf o gludiant. Mae Llysgenhadaeth Beicio'r Iseldiroedd yn argymell bod gwledydd yn dilyn y 5 egwyddor i adeiladu seilwaith beicio o'r safon orau yn y byd: https://dutchcycling.nl/expertises/cycling-infrastructure/
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 26 o'r 27 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Caerdydd Ffynnon Taf | 10 |
| Caerdydd Penarth | 10 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 2 |
| Casnewydd Islwyn | 1 |
| Gŵyr Abertawe | 1 |
| Pontypridd Cynon Merthyr | 1 |