Cryfhau codau a chanllawiau statudol i wella diogelwch a chymorth i blant awtistig ledled Cymru
Ar agor i'w llofnodi tan 13 Chwefror 2027.
380 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Atal niwed y gellir ei osgoi a gwella diogelwch i blant awtistig drwy well ymwybyddiaeth, addysg am ddiogelwch dŵr, dyfeisiau diogelwch gwirfoddol a gwell cymorth gan wasanaethau brys a rheng flaen. Dylid cryfhau’r canllawiau presennol - gan gynnwys y Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth a chanllawiau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 - i asesu anghenion a mynd i’r afael â risgiau diogelwch i’r plant nad ydynt mor ymwybodol o berygl.
Byddai hyn yn rhoi mwy o sicrwydd i deuluoedd wrth barchu preifatrwydd ac annibyniaeth plant.
Rhagor o fanylion
• Datblygu safonau gofynnol, gyda chyllid neu gymorth cydgysylltiedig i roi’r un cymorth diogelwch ni waeth ble rydych chi’n byw. • Sicrhau hyfforddiant cyson ar gyfer sefyllfaoedd brys neu sefyllfaoedd sy’n ymwneud â diogelu: ar gyfer staff addysg, gwasanaethau iechyd ac ambiwlans, darparwyr cyfleusterau hamdden a staff rheng flaen eraill. Dylai hyfforddiant gwmpasu gwahaniaethau o ran cyfathrebu, gorlwytho synhwyraidd, colli rheolaeth yn llwyr, diffyg ymwybyddiaeth o berygl, crwydro, a sut i ddynesu at blentyn awtistig a’i gefnogi yn ddiogel. • Sicrhau mynediad cyfartal at gyfleoedd cenedlaethol o ran nofio a diogelwch dŵr gan gynnwys y rhaglen nofio a diogelwch dŵr i ysgolion. Gallai addasiadau rhesymol priodol gynnwys grwpiau llai, sesiynau tawelach, cymorth ychwanegol neu hyfforddwyr sy’n ymwybodol o awtistiaeth. • Datblygu cynllun gwirfoddol ar gyfer plant sydd mewn perygl arbennig, ee dyfeisiau GPS neu dechnoleg arall, a dulliau adnabod diogelwch am ddim neu â chymhorthdal - cardiau neu freichledau sy’n cynnwys gwybodaeth hanfodol. Pob un gyda chaniatâd priodol a mesurau diogelu preifatrwydd a data.
Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda gwasanaethau perthnasol, pobl awtistig, rhieni a gofalwyr i ddatblygu dull cyson o weithredu ar gyfer Cymru gyfan.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 367 o'r 380 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Pontypridd Cynon Merthyr | 273 |
| Blaenau Gwent Caerffili Rhymni | 31 |
| Caerdydd Ffynnon Taf | 24 |
| Caerdydd Penarth | 13 |
| Afan Ogwr Rhondda | 10 |
| Casnewydd Islwyn | 10 |