Sicrhau cydymffurfiaeth orfodol â chanllaw NICE rhif 73, data cenedlaethol, a monitro arbenigol blynyddol ar gyfer gofal endometriosis
Ar agor i'w llofnodi tan 14 Chwefror 2027.
213 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio gofal endometriosis yng Nghymru, gan weithredu system genedlaethol ar gyfer monitro a thriniaeth ddiogel sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Rydym am i’r Llywodraeth gyflwyno gofyniad i gydymffurfio'n llawn â chanllaw NICE rhif 73, mewn perthynas ag archwilio ac atebolrwydd; creu cofrestrfa genedlaethol ar gyfer endometriosis; a sicrhau bod triniaeth arbenigol yn digwydd yn flynyddol, a hynny’n orfodol. Mae’r gofal a ddarperir ar hyn o bryd yn anghyson, yn anniogel, ac yn brin o ddata. Byddai'r diwygiadau hyn yn sicrhau bod gofal atebol a chyfartal yn cael ei ddarparu.
Rhagor o fanylion
Yng Nghymru, mae angen system strwythuredig ac atebol ar gyfer gofal endometriosis, sy'n sicrhau bod pob claf yn cael ei reoli’n gyson, o dan arweiniad arbenigwyr. Dylid sicrhau bod rhaid i fyrddau iechyd ddilyn canllaw NICE rhif 73 yn llawn, gan gynnwys trefniadau archwilio ffurfiol, dyletswyddau adrodd, a chanlyniadau pan na chaiff canllawiau eu gweithredu. Mae creu cofrestrfa genedlaethol ar gyfer endometriosis yn hanfodol o ran cofnodi llwybrau diagnostig, cofnodi camau’r clefyd yn gywir, cofnodi’r baich o ran symptomau, cofnodi technegau llawfeddygol, cofnodi cymhlethdodau, cofnodi’r cyfnodau rhwng achosion o’r clefyd yn dychwelyd, cofnodi’r effaith ar ffrwythlondeb, a chofnodi datblygiad anabledd. Byddai'r data hyn yn caniatáu i Gymru olrhain canlyniadau, nodi amrywiadau rhanbarthol, a chynllunio gwasanaethau yn seiliedig ar dystiolaeth wirioneddol yn hytrach na rhagdybiaethau. Byddai cynnal adolygiadau arbenigol blynyddol gorfodol yn sicrhau asesiad parhaus o boen, yr effaith ar organau, effeithiolrwydd triniaeth, a'r risg o’r clefyd yn dychwelyd, gan atal menywod rhag cael eu gadael heb driniaeth ddilynol. Mae’r gofal a ddarperir ar hyn o bryd yn brin o strwythur, goruchwyliaeth, a chanlyniadau mesuradwy. Heb y diwygiadau hyn, nid oes modd i Gymru ddarparu gofal diogel a chyfartal, na deall gwir raddfa'r niwed a achosir gan oedi o ran cael diagnosis a monitro annigonol.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 200 o'r 213 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Fflint Wrecsam | 63 |
| Gwynedd Maldwyn | 28 |
| Clwyd | 27 |
| Pontypridd Cynon Merthyr | 16 |
| Pen-y-bont Bro Morgannwg | 12 |
| Afan Ogwr Rhondda | 8 |
| Caerdydd Penarth |