Diwygio gofal plant a ariennir yng Nghymru i'w wneud yn deg ac yn hygyrch
Ar agor i'w llofnodi tan 3 Chwefror 2027.
107 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae teuluoedd sy'n gweithio ledled Cymru yn cael trafferth gyda chost gofal plant. Er gwaethaf cefnogaeth y llywodraeth, mae llawer o rieni yn dal i wynebu ffioedd na ellir eu fforddio neu maent wedi'u heithrio oherwydd rheolau cymhwysedd. Yn aml, mae teuluoedd â phlant sydd ag anghenion ychwanegol yn wynebu rhwystrau hyd yn oed yn fwy, gyda lleoedd wedi'u hariannu heb fod ar gael oherwydd na all darparwyr ddiwallu eu hanghenion. Dylai gofal plant fod yn fforddiadwy ac yn hygyrch i bob teulu sy'n gweithio.
Rhagor o fanylion
Mae fy ngŵr a minnau’n athrawon yng Nghymru ac wedi talu tua £1,100 y mis am ddau ddiwrnod o ofal plant bob wythnos i’n dau blentyn ifanc, 18 mis oed a 3 oed. Er bod cymorth yn gwella i rai teuluoedd, mae llawer o rieni wedi colli miloedd o bunnoedd oherwydd rheolau cymhwysedd a chyflwyno gofal plant wedi'i ariannu menw modd graddol. Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu cyllid gofal plant fel ei fod yn decach, yn haws ei gyrchu ac ar gael yn wirioneddol i bob teulu sy'n gweithio. Dylai hyn gynnwys sicrhau bod digon o leoedd wedi'u hariannu ar gyfer plant sydd ag Anghenion Addysgiadol Arbennig ac Anableddau, gwella cymhwysedd lle mae teuluoedd wedi'u heithrio ar hyn o bryd, a lleihau'r baich ariannol sy'n atal rhieni rhag gweithio.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 95 o'r 107 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Caerdydd Penarth | 39 |
| Caerdydd Ffynnon Taf | 29 |
| Pen-y-bont Bro Morgannwg | 8 |
| Casnewydd Islwyn | 4 |
| Sir Fynwy Torfaen | 3 |
| Afan Ogwr Rhondda | 2 |