Dylai Llywodraeth Cymru ddeddfu i wneud biniau glanweithdra yn orfodol mewn toiledau cyhoeddus dynion
Ar agor i'w llofnodi tan 29 Ionawr 2027.
320 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
O fy niagnosis canser y prostad fy hun, rwy'n gwybod pa mor anodd, chwithig, ac yn aml ddiraddiol yw gorfod defnyddio padiau glanweithdra pan nad oes bin glanweithdra mewn toiledau dynion imi gael gwared ar y pad gydag urddas. Mae hyn yn aml yn golygu nad wyf yn mynd allan.
Rwy'n ymgyrchu dros finiau i fechgyn ym mhob toiled cyhoeddus yng Nghymru. Mae Bro Morgannwg eisoes wedi croesawu fy ymgyrch - gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, gallwn wneud gwahaniaeth i gymaint o ddynion gyda'r gefnogaeth hylendid sylfaenol hon.
Rhagor o fanylion
Mae hyn yn achos pryder cyffredin gyda dynion eraill rwy'n siarad â hwy yn fy ngrŵp canser, CHILL - Cancer Help In Local Lives, sy'n profi'r angen am newid.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 295 o'r 320 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Pen-y-bont Bro Morgannwg | 92 |
| Caerdydd Penarth | 47 |
| Afan Ogwr Rhondda | 38 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 32 |
| Gŵyr Abertawe | 21 |
| Caerdydd Ffynnon Taf | 17 |