Gwneud y brechlyn ar gyfer yr eryr yn fwy hygyrch
Ar agor i'w llofnodi tan 4 Chwefror 2027.
176 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Rydw i wedi dioddef ers 7 wythnos gyda’r eryr ar fy wyneb yn lledaenu i fy llygad, gan achosi dallineb am rai diwrnodau a llid ar fy ymennydd, gan wneud i mi gael trawiad a chwympo a bod mewn cyflwr lle nad oeddwn i’n ymateb, gan arwain at gyfnod o bythefnos yn aros mewn ysbyty. Rwy’n credu bod hyn oherwydd oedi o ran cael y feddyginiaeth wrthfeirysol oedd ei hangen arnaf.
Rhagor o fanylion
Dydw i ddim yn cael gyrru am o leiaf 6 mis. Mae wedi effeithio ar fy ngwaith, fy mywyd yn gyffredinol, a sut rwy’n gallu gofalu am fy merch. Rwy’n byw gyda phoen yn ddyddiol erbyn hyn. Dydw i ddim yn gallu cael y brechlyn oherwydd fy oedran – dim ond 33 ydw i. Mae’n rhaid bod yn 65 oed i fod yn gymwys i gael y brechlyn, ac eithrio’r rai sydd â system imiwnedd sydd wedi’i wanhau’n sylweddol.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 161 o'r 176 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Clwyd | 79 |
| Bangor Conwy Môn | 62 |
| Gwynedd Maldwyn | 9 |
| Fflint Wrecsam | 5 |
| Ceredigion Penfro | 3 |
| Caerdydd Ffynnon Taf | 1 |
| Caerdydd Penarth |