Rhoi moratoriwm ar unwaith ar brosiectau ynni gwynt ar y tir sy'n defnyddio tyrbinau sy’n 200 metr neu’n uwch.
Ar agor i'w llofnodi tan 20 Ionawr 2027.
820 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae tystiolaeth gynyddol, sydd wedi'i hadolygu gan gymheiriaid, fod y defnydd o dyrbinau gwynt mawr, modern yn achosi niwed difrifol i iechyd pobl a'r amgylchedd. Nid yw Canllawiau Sŵn 2026 yn cynnig unrhyw amddiffyniad rhag sŵn amledd isel nac is-sain, nac ychwaith rhag modylu osgledau (pwlsio) ar amleddau is. Mae'r polisi’n seiliedig ar hen ddata sydd bellach yn amherthnasol. A dweud y gwir, nid oes unrhyw ddata dilys ynghylch lefelau pwysedd sain mewn senarios ar gyfer y byd sydd ohoni. Yn groes i'r canllawiau, GELLIR modelu’r broses o luosogi is-sain ar gyfer pellteroedd gwahanu diogel, a rhaid gwneud hynny.
Rhagor o fanylion
Mae adnoddau modelu sŵn tra-chywir ar gael, sydd wedi cael eu hadolygu gan gymheiriaid, a fyddai’n llawer gwell na’r hyn sy’n cael ei ddefnyddio, sef dulliau modelu sŵn nad ydynt yn ymdrin ag amleddau isel, tywydd, tirwedd ac ati. Dylai’r cam o sicrhau pellteroedd gwahanu diogel oddi wrth eiddo preswyl a gweithleoedd fod yn rhan ofynnol o bob prosiect ac adroddiad effaith lleol. Mae’r effeithiau sy’n gysylltiedig â dod i gysylltiad â lefelau uchel o is-sain wedi'i fodylu’n osgledol am 35 i 40 mlynedd yn gwbl anhysbys ac nid ydynt yn cael eu cydnabod gan awdurdodau. Nid yw’r mater hwn yn cael sylw yn y Canllawiau Sŵn newydd, a luniwyd yn eu cyfanrwydd gan y diwydiant a'i ymgynghorwyr cyflogedig. Anwybyddwyd y dystiolaeth annibynnol. Rhaid sicrhau nad yw trigolion Cymru yn wynebu perygl o ganlyniad i’r ras i gynhyrchu ynni adnewyddadwy pan fo technoleg amgen fwy diogel yn cael ei datblygu'n gyson. Rydym yn gofyn am ymchwiliad agored, annibynnol a thryloyw, ac rydym am roi terfyn ar unwaith ar bob prosiect ynni gwynt ar raddfa fawr sydd wedi cael caniatâd, boed yn y broses gynllunio neu yn y cyfnod cyn cynllunio, tan y bydd yr ymchwiliad hwn wedi'i gwblhau.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 726 o'r 820 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Brycheiniog Tawe Nedd | 190 |
| Gwynedd Maldwyn | 142 |
| Sir Gaerfyrddin | 142 |
| Ceredigion Penfro | 114 |
| Afan Ogwr Rhondda | 31 |
| Bangor Conwy Môn | 25 |
| Pen-y-bont Bro Morgannwg |