Dylid ei gwneud yn ofynnol i *BOB* awdurdod lleol gael Fforymau Ieuenctid/Cynghorau Ieuenctid y tu allan i'r ysgol
Ar agor i'w llofnodi tan 7 Ionawr 2027.
27 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Helô, Harvey ydw i, person ifanc o ogledd Cymru. Rwy'n gwirfoddoli i Barnardo's a Plant yng Nghymru. Rwyf hefyd yn llysgennad gweithredol i #iWill. Rwy'n credu y dylai fod yn gwbl angenrheidiol i'n llywodraeth ystyried ei gwneud yn orfodol i bob awdurdod lleol gael cyngor ieuenctid gorfodol gan fod cynghorau o’r fath yn ein helpu i gael mynediad at ein hawliau fel plant a phobl ifanc. Ar ben hynny, maen nhw’n rhoi i blant a phobl ifanc gyfleoedd gwell i weithio gyda'u cynghorau a hyd yn oed graffu arnyn nhw. Maen nhw’n helpu pobl ifanc i dynnu sylw at heriau sydd yn aml yn cael eu hanwybyddu.
Rhagor o fanylion
Mae gan Wynedd, Conwy, a Wrecsam ill tair gynghorau/fforymau ieuenctid ac, o’r herwydd, mae mwy o gyfleoedd yn rheolaidd i bobl ifanc ac mae safon byw i bobl ifanc yn gyffredinol yn aml yn WELL yn yr ardaloedd hyn.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 17 o'r 27 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Bangor Conwy Môn | 8 |
| Pontypridd Cynon Merthyr | 3 |
| Sir Fynwy Torfaen | 2 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 1 |
| Caerdydd Ffynnon Taf | 1 |
| Caerdydd Penarth | 1 |