Dylid cyflwyno trwyddedu cryfach ar gyfer llety ymwelwyr â chyfradd meddiannaeth uchel yng Nghymru
Ar agor i'w llofnodi tan 8 Ionawr 2027.
1,767 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Gall llety ymwelwyr â chyfradd meddiannaeth uchel gefnogi twristiaeth yng Nghymru, ond defnyddir rhai eiddo mawr ar gyfer digwyddiadau, dathliadau ac arosiadau grŵp sy'n achosi sŵn ac aflonyddwch dro ar ôl tro i drigolion cyfagos. Nid yw pwerau cynllunio, pwerau iechyd amgylcheddol na phwerau ymddygiad gwrthgymdeithasol ar hyn o bryd bob amser yn caniatáu i gynghorau weithredu'n effeithiol. Mae fframwaith trwyddedu llety ymwelwyr Llywodraeth Cymru yn gyfle i roi pwerau cliriach i gynghorau i osod amodau ac i amddiffyn cymunedau.
Rhagor o fanylion
Ni ddylai trigolion orfod colli cwsg o un penwythnos i’r llall cyn bod gan gynghorau'r grym i weithredu. Ar draws Gogledd Cymru, lleisiwyd pryderon ynghylch llety ymwelwyr â chyfradd meddiannaeth uchel yn achosi sŵn ac aflonyddwch dro ar ôl tro, gan gynnwys ger Maenor yr Hen Ysgol yn Helygain a Maenor Môr y Rhos yn Llandrillo-yn-Rhos.
Mae'r achosion hyn yn tynnu sylw at fwlch ehangach yn y gyfraith. Caiff rhai eiddo eu marchnata ar gyfer arosiadau grwpiau mawr, dathliadau a digwyddiadau, ac mae ynddynt gyfleusterau a all arwain at eu bod yn gweithredu'n debycach i leoliadau preifat na llety gwyliau traddodiadol. Ac eto mae’r cynghorau yn aml yn dibynnu ar bwerau cynllunio, ac ar bwerau o ran sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol i ymateb, a hynny ar ôl i'r niwed ddigwydd.
Byddai cyfundrefn drwyddedu gryfach yn darparu'r gallu i bennu amodau clir ymlaen llaw, gan gynnwys cynlluniau rheoli sŵn, rheolaethau ar fannau adloniant tu allan, cael rheolwyr cyfrifol enwebedig a sancsiynau effeithiol pan fydd achosion o ailadrodd aflonyddwch difrifol. Byddai hyn yn amddiffyn trigolion, yn cefnogi gweithredwyr cyfrifol ac yn rhoi hyder i gymunedau y gall y system ymateb cyn i broblemau waethygu.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 1,674 o'r 1,767 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Clwyd | 1,061 |
| Bangor Conwy Môn | 286 |
| Fflint Wrecsam | 240 |
| Gwynedd Maldwyn | 46 |
| Ceredigion Penfro | 12 |
| Caerdydd Penarth | 10 |
| Brycheiniog Tawe Nedd |