Dylid defnyddio Cymru nid Wales fel yr enw swyddogol ar ein gwlad, a defnyddio un enw yn unig ar gyfer ein henwau lleoedd
Ar agor i'w llofnodi tan 30 Rhagfyr 2026.
3,038 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Nid Wales yw enw ein cenedl. Ystyr Wales yw 'estroniaid' ac fe'i gorfodwyd arnom, ac mae'n adlewyrchu'n wael pwy ydym ni fel pobl.
A ninnau â Llywodraeth sy'n edrych tuag allan, nawr yw'r amser i ni fynnu ein bwriad ein hunain o ran sut rydym yn cael ein gweld ledled y byd, yn iaith ein cenedl gan ddefnyddio'r enw a ddewiswyd gan ein cenedl.
Nawr hefyd yw'r amser i ni roi'r gorau i ddefnyddio dau enw ar gyfer lleoedd ag enwau Cymraeg dyfnach, hŷn. Gallwn yn synhwyrol gadw rhai enwau ag ystyron hanesyddol deuol a phwysig eraill.
Rhagor o fanylion
Mae safle Cymru ar y llwyfan rhyngwladol yn fach iawn iawn o'i gymharu â'r Alban ac Iwerddon, ond â Llywodraeth newydd mewn grym sy'n edrych tuag allan, mae gennym gyfle i newid hynny.
Mae Twrci a Tsiecia yn enghreifftiau o wledydd sydd wedi newid eu henwau, ac rydym hefyd wedi gweld llwyddiant ein parciau cenedlaethol yn defnyddio enwau Cymraeg ac yn ennill sylw rhyngwladol ehangach.
Cafodd deiseb flaenorol ar y pwnc dros 10,000 o lofnodion ac fe’i hanwybyddwyd gan Lywodraeth Lafur. Roedd y ddeiseb, a grëwyd gan Arfon Jones, yn dweud: Enw sydd wedi ei orfodi ar Gymru yw’r enw ‘Wales’, sydd yn ei hanfod ddim yn air Cymraeg o gwbl. Mae’r byd i gyd bron yn gwybod am Wales oherwydd ei chysylltiad Seisnig a Lloegr ers 1282.
"Nid oes fawr neb yn gwybod am Gymru a bod ganddi iaith a diwylliant unigryw ei hunan sydd yn hollol wahanol i’r gwledydd eraill o fewn y Deyrnas Unedig." Mae gennym gyfle i ailosod, i ailfrandio ac i adnewyddu ein cenedl a'i dinasoedd, ei threfi a’i phentrefi - byddai hyn yn ddechrau hyderus a gobeithiol.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 2,737 o'r 3,038 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Gwynedd Maldwyn | 367 |
| Caerdydd Penarth | 248 |
| Sir Gaerfyrddin | 246 |
| Bangor Conwy Môn | 241 |
| Ceredigion Penfro | 199 |
| Caerdydd Ffynnon Taf | 191 |