Gwneud dosbarthiadau o 20 o fyfyrwyr yn gyfraith ar gyfer gwersi ymarferol.
Ar agor i'w llofnodi tan 17 Rhagfyr 2026.
103 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae maint dosbarthiadau mewn pynciau ymarferol fel Dylunio a Thechnoleg, Peirianneg, Adeiladu, Lletygarwch, Gwyddoniaeth, a disgyblaethau eraill sy'n seiliedig ar weithdai yn parhau i dyfu, er y ffaith bod canllawiau proffesiynol clir yn cynghori yn erbyn y duedd hon. Mae gwledydd datganoledig eraill eisoes wedi deddfu yn hyn o beth, a chredwn y dylai Cymru ddilyn eu hesiampl.
Rhagor o fanylion
Mae canllawiau undebau presennol yn nodi na ddylai fod mwy nag 20 o ddisgyblion mewn dosbarthiadau pynciau ymarferol. Nid mympwy yw'r argymhelliad hwn; fe'i cefnogir gan yr Adran Addysg, y Gymdeithas Dylunio a Thechnoleg, a BS 4163:2021 gan y Sefydliad Safonau Prydeinig, sydd i gyd yn arddel 20 disgybl fel y meincnod diogel ar gyfer amgylchedd addysgu ymarferol. Rhaid inni hefyd ystyried y goblygiadau ehangach y tu hwnt i ddiogelwch ac addysgeg: Y llwyth gwaith cynyddol a roddir ar ysgwyddau athrawon o ran cynllunio a datblygu adnoddau er mwyn rheoli'r dosbarthiadau rhy fawr hyn. Y straen cynyddol a'r effaith ar lesiant athrawon o orfod rheoli dosbarthiadau mawr a cheisio eu cadw’n ddiogel yn ystod tasgau ymarferol, ynghyd â’r ofn y bydd damwain y byddant yn cael eu dal yn gyfrifol amdani. Yr argyfwng recriwtio mewn pynciau ymarferol—maes sydd eisoes yn wynebu prinder. Mae'r dosbarthiadau mawr hyn a'r sefyllfaoedd peryglus hyn yn ychwanegu at resymau athrawon gwersi ymarferol dros adael y proffesiwn.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 101 o'r 103 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Blaenau Gwent Caerffili Rhymni | 26 |
| Pontypridd Cynon Merthyr | 23 |
| Casnewydd Islwyn | 10 |
| Caerdydd Penarth | 9 |
| Afan Ogwr Rhondda | 5 |
| Caerdydd Ffynnon Taf | 5 |