Sicrhau bod gan blant ag alergeddau bwyd fynediad cyfartal i gymorth prydau ysgol am ddim
Ar agor i'w llofnodi tan 15 Rhagfyr 2026.
39 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu prydau ysgol am ddim i blant ysgolion cynradd. Fodd bynnag, ni all rhai plant ag alergeddau bwyd fwyta'r prydau a ddarperir yn ddiogel. Rhaid i deuluoedd yn y sefyllfa hon ddarparu pecynnau bwyd ar eu traul eu hunain. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru ddarparu talebau bwyd neu gymorth cyfatebol pan na all plentyn gael prydau ysgol am ddim yn ddiogel oherwydd bod ganddo anghenion dietegol â diagnosis meddygol.
Rhagor o fanylion
Mae rhaglen Llywodraeth Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd Cymru yn cefnogi teuluoedd gyda’u costau byw. Fodd bynnag, ni all rhai plant gael prydau ysgol yn ddiogel oherwydd alergeddau bwyd neu anghenion deietegol eraill y mae gofyn iddynt eu dilyn am resymau meddygol. Mae gan fy mab alergedd i datws. Mae cynhwysion tatws yn cael eu defnyddio mewn llawer o fwydydd, ac mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd i ysgolion a darparwyr arlwyo roi sicrwydd bod prydau bwyd yn ddiogel iddo. O ganlyniad, nid oes ganddo’r un hawl â phlant eraill i gael prydau ysgol am ddim. Rhaid i deuluoedd yn y sefyllfa hon ddarparu pecynnau bwyd ar eu traul eu hunain, er gwaethaf y ffaith eu bod yn gymwys i gael yr un cymorth â disgyblion eraill. Cyflyrau meddygol yw alergeddau bwyd, nid dewisiadau ynghylch ffordd o fyw. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru adolygu'r mater hwn, casglu data ar blant yr effeithir arnynt, a darparu talebau bwyd neu gymorth ariannol cyfatebol lle na ellir darparu prydau ysgol addas yn ddiogel.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 35 o'r 39 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Caerdydd Penarth | 13 |
| Sir Fynwy Torfaen | 6 |
| Pen-y-bont Bro Morgannwg | 4 |
| Sir Gaerfyrddin | 3 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 2 |
| Afan Ogwr Rhondda | 1 |