Gwahardd pleidiau gwleidyddol rhag defnyddio delweddau a gynhyrchir gan AI.
Ar agor i'w llofnodi tan 15 Rhagfyr 2026.
21 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Gyda thechnoleg delweddau a gynhyrchir gan AI yn gwella’n gyflym, mae'n gynyddol anodd gwahaniaethu rhwng y gwir a’r gau. Ni ellir dweud mwyach mai “gweld yw credu”. Yn hytrach, mae’n dod yn fwyfwy amlwg mai i’r gwrthwyneb y bydd hi. Er mwyn annog hyder y cyhoedd a sicrhau bod negeseuon gwleidyddol yn deg, yn gywir ac yn fuddiol o ran gwybodaeth, mae angen gwahardd pleidiau gwleidyddol a'u Haelodau etholedig rhag defnyddio delweddau a gynhyrchir gan AI, a hynny ar unwaith.
Rhagor o fanylion
Mae'r potensial ar gyfer lledaenu camwybodaeth drwy ddelweddau a gynhyrchir gan AI yn bryder amlwg. Ar ben hynny, ni wyddom i ba raddau y mae delweddau hyper-realistig a gynhyrchir gan AI yn dylanwadu ar y cyhoedd. Felly, awgrymaf ein bod yn cyflwyno gwaharddiad ar ddefnyddio’r dechnoleg hon at ddibenion gwleidyddol, a hynny ar unwaith, hyd nes ein bod yn deall effeithiau delweddau o’r fath ar etholwyr yn well. Yn ogystal, gallai’r posibilrwydd o gamarwain y cyhoedd, boed yn fwriadol neu drwy esgeulustod, ddwyn anfri ar rôl Aelod o’r Senedd. Byddwn felly’n awgrymu y dylai achosion lluosog o dorri’r rheolau hyn arwain at ganlyniadau go iawn. Hoffwn weld yr Aelodau’n cael y cyfle i drafod y mater hwn, gyda phleidlais yn cael ei chynnal ynghylch cyflwyno gwaharddiad cychwynnol, a hynny wrth i effaith delweddau a gynhyrchir gan AI ar etholwyr gael ei deall yn well. Dylai'r Senedd fod yn gosod esiampl o ran ymddygiad, gwedduster a defnyddio technolegau newydd yn gyfrifol. Nid oes lle mewn gwleidyddiaeth ar gyfer delweddau sy'n ystumio'r gwir, neu sy'n gelwyddau llwyr.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 18 o'r 21 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Blaenau Gwent Caerffili Rhymni | 5 |
| Bangor Conwy Môn | 2 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 2 |
| Caerdydd Ffynnon Taf | 2 |
| Caerdydd Penarth | 2 |
| Sir Fynwy Torfaen | 2 |