Gosod gofyniad ar gynghorau Cymru i flaenoriaethu ansawdd, parhad a diogelwch wrth gomisiynu gofal cymdeithasol
Ar agor i'w llofnodi tan 21 Tachwedd 2026.
650 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Rydym am weld gofyniad ar gynghorau Cymru i gymryd y camau a ganlyn: * Cyhoeddi sut mae contractau gofal yn cael eu dyfarnu. * Gwahardd y broses o gomisiynu ar sail y gost isaf yn unig. * Gwella’r oruchwyliaeth o ddarparwyr gofal cartref. * Ymchwilio i fethiannau mewn arferion comisiynu. * Cyflwyno lefelau staffio gofynnol a hyfforddiant estynedig ar gyfer staff.
Rhagor o fanylion
Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn comisiynu gwasanaethau gofal hanfodol ar gyfer pobl hŷn a phobl anabl drwy gontractau gyda darparwyr preifat a darparwyr trydydd sector. Mae pryderon wedi’u mynegi ynglŷn â’r ffaith y gall arferion comisiynu flaenoriaethu ymdrechion i leihau costau uwchlaw parhad ac ansawdd gofal. Gall hyn gyfrannu at ruthro wrth gynnal ymweliadau, lefelau trosiant uchel ymhlith y staff, cymorth anghyson, a phwysau ar weithwyr gofal drwy arferion amserlennu afrealistig a chyflogau isel. Mae'r materion hyn yn effeithio ar bobl sy’n agored i niwed, gofalwyr di-dâl, a staff rheng flaen ledled Cymru. Cafwyd hanesion gan deuluoedd a chymunedau lleol sydd wedi tynnu sylw at bwysau parhaus o fewn y sector gofal cymdeithasol. Mae angen mwy o dryloywder a safonau cenedlaethol cryfach er mwyn sicrhau bod cynghorau'n comisiynu gofal mewn modd diogel a theg, ac ar sail ansawdd y canlyniadau yn hytrach na chost yn unig. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru adolygu’r broses a ddilynir gan awdurdodau lleol wrth gomisiynu gwasanaethau gofal, a chredwn y dylai gyflwyno safonau cenedlaethol cliriach ar gyfer comisiynu moesegol a chynaliadwy.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 644 o'r 650 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Afan Ogwr Rhondda | 320 |
| Pontypridd Cynon Merthyr | 136 |
| Ceredigion Penfro | 42 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 19 |
| Sir Gaerfyrddin | 19 |
| Caerdydd Penarth | 17 |