Gwybodaeth ôl-ofal a gofal dilynol wedi’u safoni ar ôl llawdriniaeth endometriosis
Ar agor i'w llofnodi tan 3 Tachwedd 2026.
120 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae cleifion yn aml yn cael eu rhyddhau heb ganllawiau clir ac maent yn aros misoedd am apwyntiad dilynol, waeth pa mor ddifrifol yw’r llawdriniaeth. Ar y llaw arall, mae’r GIG yn rhoi gwybodaeth wrth ryddhau cleifion ar gyfer llawer o gyflyrau eraill, a hynny fel mater o drefn.
Rydym yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau bod y GIG yn rhoi gwybodaeth wedi’i safoni ar sail difrifoldeb ar ôl llawdriniaeth ar gyfer endometriosis, gan gynnwys amseroedd gwella, canllawiau ynghylch gwaith/gweithgarwch, symptomau baner goch ac ati, a fydd yn gwella diogelwch cleifion, canlyniadau adfer a chysondeb y gofal.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 113 o'r 120 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Caerdydd Penarth | 28 |
| Caerdydd Ffynnon Taf | 16 |
| Casnewydd Islwyn | 16 |
| Pontypridd Cynon Merthyr | 11 |
| Blaenau Gwent Caerffili Rhymni | 10 |
| Pen-y-bont Bro Morgannwg | 6 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 5 |