Rhoi terfyn ar gynnig disgowntiau aml-eitem a gostyngiadau cardiau teyrngarwch ar alcohol yng Nghymru
Ar agor i'w llofnodi tan 31 Hydref 2026.
10 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauHeb ei gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud fel a ganlyn: 1. Gwaharddwch yr holl hysbysebion prynu lluosog (e.e., "Prynu un a chael un am ddim", "3 am £20") ar gynhyrchion alcoholaidd mewn lleoliadau manwerthu. 2. Dylid gwahardd gostyngiadau cardiau teyrngarwch "ar gyfer aelodau yn unig" (sef bargeinion tebyg i’r rhai a geir gyda cherdyn Clubcard neu gerdyn Nectar) ar alcohol, gan sicrhau mai'r Isafbris yr uned (MUP) yw'r llinell sylfaen heb gymhelliant pellach i or-brynu. 3. Gwnewch rybuddion iechyd graffig "yn yr arddull a geir ar gynnyrch tybaco" yn orfodol ar bob pecyn alcohol a werthir yng Nghymru i ddangos canlyniadau iechyd hirdymor ei yfed.
Rhagor o fanylion
Marwolaethau cynyddol: Adroddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ar nifer uwch nag erioed o farwolaethau a oedd gysylltiedig yn benodol ag alcohol yn 2023— sef cynnydd o 15.6% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. • Pwysau ar ofal iechyd: Mae tua 12,000 o dderbyniadau i'r ysbyty yng Nghymru bob blwyddyn oherwydd alcohol. Amcangyfrifir bod ysbytai Cymru yn ymdrin â bron i 1,000 o dderbyniadau sy'n gysylltiedig ag alcohol bob wythnos. • Bwlch anghydraddoldeb: Mae unigolion yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru 2.8 gwaith yn fwy tebygol o gael eu derbyn i'r ysbyty oherwydd cyflyrau sydd o ganlyniad i yfed alcohol na phobl yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. • Prynu byrbwyll: Mae ymchwil gan Alcohol Change UK yn awgrymu bod dros 60% o yfwyr yn nodi eu bod yn prynu rhagor o alcohol nag yr oeddent wedi bwriadu ei wneud o ganlyniad i gynigion arbennig neu ymgyrchoedd hyrwyddo. Drwy gael gwared ar y cymhellion hyn, gallwn amddiffyn y bobl sy’n fwyaf agored i niwed, a lleihau'r straen ar y GIG.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 10 o'r 10 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Blaenau Gwent Caerffili Rhymni | 4 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 2 |
| Afan Ogwr Rhondda | 1 |
| Caerdydd Ffynnon Taf | 1 |
| Clwyd | 1 |
| Sir Fynwy Torfaen | 1 |