O 12 wythnos o feichiogrwydd ymlaen, dylai menywod allu defnyddio parcio i bobl anabl i leihau poen.
Wedi'i gwrthod
16 llofnod
Pan oedd fy ngwraig tua 30 wythnos yn feichiog, dechreuodd ddioddef o Boen yn y Gwregys Pelfig, cyflwr a all achosi poen ac anhawster sylweddol wrth gerdded. Ar sawl achlysur pan wnaethom ymweld â lleoedd fel siopau a bwytai, roedd lleoedd parcio i bobl anabl ar gael yn agos at y mynedfeydd. Fodd bynnag, gan nad yw menywod beichiog sydd â chyflyrau fel Poen yn y Gwregys Pelfig yn gymwys i ddefnyddio'r lleoedd hyn, bu'n rhaid i fy ngwraig barcio ymhellach i ffwrdd a cherdded pellter sylweddol tra roedd hi mewn poen.
Rhagor o fanylion
Gall Poen yn y Gwregys Pelfig fod yn hynod anghyfforddus a phoenus i fenywod yn ystod beichiogrwydd. Lle bo modd, dylid cymryd camau i leihau'r anghysur diangen hwn a chynnig cefnogaeth i’w gwneud yn haws ymdopi yn ystod beichiogrwydd i’r rhai sy’n dioddef o’r cyflwr.