Newid polisi’r dreth gyngor: dylai lletyau gwyliau dalu eu ffordd
Ar agor i'w llofnodi tan 2 Tachwedd 2026.
315 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Yn 2024, ni thalodd dros 10,000 o dai/fflatiau a ddefnyddiwyd fel llety gwyliau yng Nghymru unrhyw drethi o gwbl – dim treth gyngor, a dim trethi busnes: mae hyn yn golled o tua £48 miliwn mewn refeniw treth gyngor ar gyfer y flwyddyn honno yn unig.*
Rhagor o fanylion
Mae'r "bwlch" cyfreithiol yn caniatáu newid i dalu trethi busnes pan gyrhaeddir trothwy rhent**. Yna mae gwerth ardrethol isel yn golygu bod y perchnogion yn cael rhyddhad ardrethi busnesau bach o 100%: golyga hyn eu bod nhw’n talu dim. Rydym am i Lywodraeth Cymru gau’r "bwlch" treth gyngor hwn.
Mae'r ddeiseb hon hefyd am roi gwybod am y canlynol: 1. Dyfarnwyd taliadau Covid-19 o £10,000 i lawer o letyau gwyliau a restrir ar y gofrestr ardrethi busnes; 2. Amcangyfrifwyd bod y gost i Lywodraeth Cymru (2021-2022) o ddarparu rhyddhad ardrethi busnesau bach i letyau gwyliau yn £17 miliwn ***
Dylai’r dreth gyngor gael ei thalu ar dai/fflatiau sy'n cael eu marchnata a'u gwerthu fel eiddo domestig: mae nifer y nosweithiau rhent yn amherthnasol.
Cyfeiriadau: *Gwybodaeth Rhyddid Gwybodaeth gan awdurdodau lleol yng Nghymru (2024); Treth gyngor Band "D" (a phremiwm lle bo'n berthnasol) a ddefnyddiwyd ar gyfer cyfrifiadau. **Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022. ***Memorandwm Esboniadol Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022, dyddiedig 24 Mai 2022.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 305 o'r 315 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Gwynedd Maldwyn | 119 |
| Bangor Conwy Môn | 53 |
| Ceredigion Penfro | 29 |
| Sir Gaerfyrddin | 27 |
| Caerdydd Penarth | 16 |
| Clwyd | 15 |
| Caerdydd Ffynnon Taf |