Sefydlu un Bwrdd Iechyd Cenedlaethol i Gymru a Grymuso Ysbytai Sirol
Wedi cau
1,034 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Ers tri degawd, mae gwasanaethau gofal iechyd ledled Cymru wedi dirywio. Mae adrannau wedi cau neu gael eu hisraddio, mae gwasanaethau mamolaeth, iechyd meddwl, ac arbenigol wedi'u canoli neu eu dileu, ac mae amseroedd aros wedi cynyddu mewn modd annioddefol. Mewn rhai siroedd, mae'r ddarpariaeth wedi cyrraedd yr isafbwynt, lle na ellir gwarantu mynediad amserol at ofal hanfodol. Nid oes gennym unrhyw hyder yn y strwythur aml-fwrdd presennol, sydd wedi creu anghysondeb, dyblygu, gwneud penderfyniadau o bell ac atebolrwydd gwan. Mae Cymru yn genedl fach ac ni ddylai wynebu anghydraddoldeb cod post mewn gofal iechyd.
Rhagor o fanylion
Mae cleifion yn teithio ymhellach, mae staff wedi’u gorweithio, ac mae cymunedau'n teimlo eu bod wedi'u hanghofio.
Byddai un bwrdd iechyd cenedlaethol yn lleihau biwrocratiaeth, yn cryfhau goruchwyliaeth, ac yn sicrhau dosbarthiad tecach o gyllid a safonau.
Rhaid i ysbytai sirol fod ag awdurdod diffiniedig i reoli gwasanaethau lleol craidd ac ymateb i anghenion lleol. Mae gofal iechyd yn rhaff achub cyhoeddus. Ar ôl degawdau o ddirywiad, mae ymddiriedaeth wedi cael ei niweidio. Mae Cymru yn haeddu gwell.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 1,001 o'r 1,034 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Ceredigion Penfro | 909 |
| Sir Gaerfyrddin | 36 |
| Caerdydd Ffynnon Taf | 13 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 12 |
| Sir Fynwy Torfaen | 6 |
| Caerdydd Penarth | 5 |
| Gwynedd Maldwyn |