Dewch ag uned ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Gwent yn ôl.
Wedi cau
484 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae Casnewydd yn ddinas, a hynny ers iddi gael statws dinas yn Jiwbilî Aur y Frenhines yn 2002. Ac eto, yn wahanol i ddinas fodern, cafodd ei huned ddamweiniau ac achosion brys ei symud i Gwmbrân, gydag uned mân anafiadau yn aros yn Ysbyty Brenhinol Gwent, sydd o fewn ffiniau’r ddinas.
O’r herwydd, mae uned ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty’r Faenor yn dioddef gan amseroedd aros eithriadol o hir, ac mae'n rhy fach i wasanaethu'r cymunedau amrywiol o Gasnewydd a'r cymoedd tu hwnt. Byddai ailagor uned ddamweiniau ac achosion brys yn ninas Casnewydd yn dod â gwasanaeth mawr ei angen yn ôl.
Rhagor o fanylion
Mae cleifion sy’n cyrraedd Ysbyty’r Faenor yn wynebu amseroedd aros hir a rhaid i'r rhai sy'n cyrraedd mewn ambiwlans aros yn hwy byth. Mae’r uned ddamweiniau ac achosion brys yn fechan iawn, gyda dim mwy nag 20 o gadeiriau. Mae'n amlwg ar ôl 5 mlynedd nad yw’n ymarferol iddi wasanaethu Casnewydd a'r cymunedau cyfagos oherwydd ei maint.
Cafodd pobl Casnewydd siom aruthrol pan symudwyd yr uned ddamweiniau ac achosion brys o Ysbyty Brenhinol Gwent ar 17 Tachwedd 2020. Nid yw’n ymarferol i i ddinas fawr gael ei phrif ysbyty mewn tref gyfagos. Ar ben hynny, nid yw uned ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty’r Faenor yn gallu diwallu'r galw o Gasnewydd a thu hwnt yn effeithlon.
Rwyf i, a Chasnewydd, am i Lywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ailagor uned ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Gwent. Bydd y cam cadarnhaol hwn yn lleddfu’r straen ddifrifol ar uned ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty’r Faenol a bydd yn lleihau amseroedd aros yn gyson ar draws y Bwrdd Iechyd.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 476 o'r 484 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Casnewydd Islwyn | 340 |
| Sir Fynwy Torfaen | 95 |
| Blaenau Gwent Caerffili Rhymni | 21 |
| Pontypridd Cynon Merthyr | 7 |
| Caerdydd Ffynnon Taf | 4 |
| Caerdydd Penarth | 4 |