Dylid datgan Argyfwng Iechyd Gwladol Cymru
Wedi cau
417 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae Cymru mewn Argyfwng Iechyd. Mae oedi o ran ambiwlansys yn arwain at fod cleifion mewn perygl. Mae triniaethau'n cael eu gohirio am flynyddoedd. Mae prinder meddygon teulu a deintyddion yn arwain at fod dim gofal sylfaenol i deuluoedd. Mae rhestrau aros yn parhau’n hir iawn. Mae ysbytai yn cwtogi ar wasanaethau. Mae’r prinder staff yn ddifrifol. Mae byrddau iechyd mewn dyled ac mae hynny’n gorfodi pobl yn ein cymunedau i deithio’n bellach. Mae angen gweithredu ar frys.
Rhagor o fanylion
Mae saith bwrdd iechyd Cymru oll yn gweithredu mewn diffyg ariannol. Mae rhestrau aros ymhlith y rhestrau aros hiraf a gofnodwyd erioed ac mae llawer o gleifion yn parhau i wynebu oedi hir am driniaeth. Mae prinder meddygon teulu a deintyddion y GIG yn parhau i gyfyngu ar fynediad pobl at ofal sylfaenol. Mae oedi o ran ambiwlansys a phwysau ar ysbytai yn parhau yn ddifrifol, ac mae gwasanaethau'n cael eu lleihau a staff o dan straen eithafol. Mae'r amodau hyn yn amlygu system sydd mewn argyfwng parhaus.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 411 o'r 417 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Gwynedd Maldwyn | 269 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 96 |
| Ceredigion Penfro | 20 |
| Clwyd | 7 |
| Sir Gaerfyrddin | 6 |
| Blaenau Gwent Caerffili Rhymni | 3 |
| Pen-y-bont Bro Morgannwg |