Gosod Cofeb i Catrin ferch Owain Glyndŵr yng Nghastell Harlech neu gerllaw
Wedi cau
574 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Catrin, merch Owain Glyndŵr. Treuliodd rai o'i blynyddoedd olaf yng Nghastell Harlech wrth i wrthryfel ei thad chwythu ei blwc. Yn ystod y gwarchae, fe gollodd ei gŵr a'i mab, ac ym 1409 cafodd hi, ei mam, a'i merched eu cymryd yn garcharorion a'u symud i Dŵr Llundain.
Rhagor o fanylion
Mae cofeb fodern i Catrin yn Llundain, ond nid oes dim i’w choffáu yn Harlech, sef y man sydd fwyaf cysylltiedig â'i bywyd. Mae trigolion ac ymwelwyr yn parhau i fod yn anymwybodol o bwy oedd hi a'i chysylltiad â'r castell.
Nid cadfridog nac arweinydd gwleidyddol oedd Catrin, ond merch, gwraig, mam, a sifiliad a ddioddefodd golled bersonol ddwys o ganlyniad i ryfel. Mae ei stori yn cyfleu rhywbeth sydd yn aml yn mynd yn angof, sef profiadau menywod a phlant o wrthdaro yn yr oesoedd canol, ac mae’n cynnig persbectif dynol iawn ar hanes Castell Harlech. Credwn y byddai cofeb neu nodwedd ddeongliadol seml, wedi'i chynllunio â sensitifrwydd, yn gwneud y canlynol: Anrhydeddu bywyd a dioddefaint Catrin Ehangu a chyfoethogi’r dehongliad o Gastell Harlech Gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd o brofiadau menywod yn hanes Cymru Cryfhau dealltwriaeth leol a chenedlaethol o'r stori bwysig hon Gofynnwn, gyda pharch, i Cadw archwilio, mewn egwyddor, ddichonoldeb cofeb o'r fath a chynghori ar y camau nesaf priodol. Drwy lofnodi'r ddeiseb hon, rydych chi'n cefnogi cydnabod Catrin ferch Owain Glyndŵr fel ffigwr arwyddocaol yn nhreftadaeth Cymru ac yn cadarnhau bod ei stori'n haeddu cael ei choffáu yn ei phriod le.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 414 o'r 574 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Gwynedd Maldwyn | 168 |
| Clwyd | 39 |
| Bangor Conwy Môn | 38 |
| Fflint Wrecsam | 29 |
| Ceredigion Penfro | 24 |
| Sir Gaerfyrddin | 18 |
| Brycheiniog Tawe Nedd |