Ei gwneud yn orfodol cyflwyno system monitro arogleuon awtomataidd parhaus ym mhob safle tirlenwi ledled Cymru
Wedi cau
469 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae cymunedau ledled Cymru yn wynebu arogleuon parhaus o safleoedd tirlenwi sy'n effeithio'n sylweddol ar eu hiechyd, lles ac ansawdd bywyd. Mae monitro presennol yn dibynnu'n fawr ar ymweliadau safle achlysurol, hunan-adrodd gan weithredwyr ac ymchwiliadau mewn ymateb i gwynion, ac mae hyn yn aml yn methu â chofnodi effeithiau mewn amser real. Heb fonitro awtomataidd parhaus, gall digwyddiadau arogl niweidiol fynd heb eu canfod, neu gellir gwadu eu bod yn digwydd neu eu bod yn ddifrifol, gan adael trigolion heb amddiffyniad effeithiol na thryloywder.
Rhagor o fanylion
Mae technoleg awtomataidd ar gyfer monitro aroglau a nwy eisoes ar gael ac yn cael ei defnyddio'n rhyngwladol. Byddai data parhaus yn gwella tryloywder, yn galluogi ymateb rheoleiddio cyflymach, yn cefnogi penderfyniadau gorfodi, ac yn gwella ymddiriedaeth y cyhoedd. Byddai monitro annibynnol, mewn amser real, yn lleihau anghydfodau rhwng trigolion, gweithredwyr a rheoleiddwyr, ac yn sicrhau bod amddiffyniadau amgylcheddol ac iechyd y cyhoedd yn cael eu cymhwyso'n gyson ledled Cymru.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 456 o'r 469 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Pontypridd Cynon Merthyr | 151 |
| Ceredigion Penfro | 133 |
| Gwynedd Maldwyn | 116 |
| Afan Ogwr Rhondda | 11 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 7 |
| Fflint Wrecsam | 7 |