Newid Deddf Tai (Cymru) 2014 - Rhoi stop ar gartrefu troseddwyr mewn ardaloedd preifat sefydledig.
Wedi'i gwrthod
5 llofnod
Dyma gyfle i newid Deddf Tai (Cymru) 2014. Mae llawer o gynghorau lleol yn rhoi ad-droseddwyr, troseddwyr peryglus a throseddwyr rhyw yn ôl yn y gymuned leol mewn ardaloedd anaddas. Mae ond yn deg sicrhau bod pobl ddigartref yn cael gofal, ond mae angen rhoi mwy o ystyriaeth i'r risg a'r ansefydlogrwydd sy’n cael ei achosi gan denantiaid a pherchnogion yn gadael eiddo oherwydd y straen o fyw ar bwys unigolion sy'n tarfu ar yr ardaloedd y maent wedi cael eu cartrefu ynddynt. Dylai cynghorau osgoi cartrefu cyn-droseddwyr mewn cymunedau preswyl lle ystyrir y rhan fwyaf o’r eiddo yn eiddo preifat neu’n eiddo ar rent: dylid ceisio darparu cartrefi mewn ardaloedd sy’n helpu o ran adsefydlu. Mae angen i ni amddiffyn a diogelu ein cymunedau.