Adfer cyllid Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod meddygfa Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn aros ar agor
Wedi cau
2,891 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Ers colli’r Warant Isafswm Incwm Practis (MPIG) yn 2015, mae meddygfa Llanrhaeadr wedi cael ei chefnogi drwy gyllid ychwanegol. Y rheswm a roddwyd dros ddarparu’r cyllid ychwanegol hwn oedd yr angen i ddarparu gwasanaethau meddygol a gwasanaethau fferyllol o gangen sydd wedi’i lleoli mewn ardal fawr, unigryw ac anghysbell yng ngogledd Powys. Nid yw Bwrdd Iechyd Addysgu Powys bellach yn bwriadu darparu cyllid ychwanegol i gadw'r gangen hon ar agor yn y tymor hir.
Rhagor o fanylion
Yn sgil toriadau i’w gyllid, mae Practis Grŵp Llanfyllin (practis fferyllol aml-safle mawr yng nghefn gwlad) wedi gorfod cyhoeddi rhybudd y bydd yn cau ei ganolfan feddygol yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Bydd hyn yn cael effaith andwyol ar y gofal sylfaenol a ddarperir yn yr ardal wledig hon. Bydd y bygythiad uniongyrchol i’r ganolfan feddygol yn Llanrhaeadr yn effeithio ar gynaliadwyedd Practis Grŵp Llanfyllin yn y tymor hwy, gan arwain at ddirywiad mewn gwasanaethau a mwy fyth o bwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys. Rydym yn mynnu bod y Senedd yn adolygu’r cyllid a ddarperir ar gyfer gofal sylfaenol yn Sir Drefaldwyn/Powys er mwyn sicrhau darpariaeth deg i bob claf. Fel yr unig endid sy’n darparu gofal sylfaenol a gwasanaethau fferyllol mewn ardal sy'n ymestyn dros 460 o filltiroedd sgwâr, rhaid sicrhau bod Practis Grŵp Llanfyllin yn gallu cadw ei dri safle presennol ar agor, a hynny er mwyn sicrhau bod gan bawb yn yr ardal eang ac unigryw hon o Bowys fynediad at ofal iechyd.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 1,283 o'r 2,891 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Gwynedd Maldwyn | 1,215 |
| Fflint Wrecsam | 19 |
| Caerdydd Ffynnon Taf | 11 |
| Caerdydd Penarth | 9 |
| Clwyd | 8 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 6 |
| Ceredigion Penfro |