Dylai fod yn orfodol i blant ysgol gynradd ddarllen ac i rywun ddarllen iddynt bob dydd pan fyddant yn yr ysgol.
Wedi'i gwrthod
27 llofnod
Prif nod y Cenhedloedd Unedig yw sicrhau addysg gynradd ac uwchradd sydd am ddim, yn gyfartal, ac o ansawdd da erbyn 2030. Er mwyn cyflawni'r nod hwn, un o'u blaenoriaethau yw sicrhau bod holl ieuenctid a chyfran sylweddol o oedolion, yn ddynion ac yn fenywod, yn meddu ar sgiliau llythrennedd priodol. Bydd hyn yn caniatáu i Gymru alluogi addysg gynhwysol a theg o ansawdd uchel a hyrwyddo cyfleoedd dysgu gydol oes i bawb.
Rhagor o fanylion
Bydd Estyn yn canolbwyntio ar ddarllen ym mis Medi 2026 gyda'r nod o geisio sicrhau na fydd plant yn gadael yr ysgol heb allu darllen yn rhugl. Trafododd Estyn y cysylltiad rhwng sgiliau llythrennedd isel, tangyflawniad, tlodi a throseddu. Dywedodd y Prif Arolygydd Owen Evans: “Mae darllen yn fedr gydol oes sy’n agor drysau i gyfleoedd yn y dyfodol a thrwy’r dull targedig hwn, ein nod yw cefnogi dysgwyr yn well i wneud cynnydd ar draws pob un o feysydd y cwricwlwm a chael cyfleoedd gwell mewn bywyd.” Byddai darllen gorfodol bob dydd yn yr ysgol gynradd yn helpu i sicrhau bod pob plentyn yn gadael yr ysgol gynradd yn gallu darllen.
Nodau Datblygu Cynaliadwy (2026) Addysg o Ansawdd Ar gael yn: https://globalgoals.org/goals/4-quality-education/ (Fel ar 9 Ionawr 2026). Estyn (2026) Ffocws Manylach Estyn ar Ddarllen: Cefnogi Pob Dysgwr i Lwyddo Ar gael yn: https://www.estyn.llyw.cymru/newyddion/ffocws-manylach-estyn-ar-ddarllen-cefnogi-pob-dysgwr-i-lwyddo/ (Fel ar 9 Ionawr 2026).