Cadw plant sy’n siarad Cymraeg ac sydd ag anghenion cymhleth yng Nghymru — rhoi’r gorau i’w lleoli yn Lloegr
Wedi'i chwblhau
560 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae plant sy'n siarad Cymraeg ac sydd ag anghenion ychwanegol difrifol a chymhleth yn cael eu hanfon i Loegr oherwydd nad oes lleoliadau addas yng Nghymru. Rydym yn galw am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg leol ar frys.
Rhagor o fanylion
Mae fy mab yn blentyn sy'n siarad Cymraeg ac sydd ag anghenion difrifol a chymhleth, gan gynnwys awtistiaeth, ARFID, Pica, a gorbryder. Nid oes lleoliadau lleol addas yng Ngogledd Cymru, felly rhaid iddo fynd i Loegr — ymhell o'i gartref, ei deulu a'i iaith.
Mae llawer o deuluoedd yn wynebu'r un sefyllfa dorcalonnus. Mae plant yn cael eu hanfon i ffwrdd oherwydd diffyg darpariaeth arbenigol yng Nghymru.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i: • Greu lleoliadau lleol ar gyfer plant sydd ag anghenion cymhleth • Datblygu ac ariannu darpariaeth arbenigol cyfrwng Cymraeg
Ni ddylai unrhyw blentyn orfod gadael Cymru neu golli ei iaith i gael y cymorth y mae ei angen arno.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 527 o'r 560 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Bangor Conwy Môn | 442 |
| Gwynedd Maldwyn | 39 |
| Clwyd | 8 |
| Fflint Wrecsam | 8 |
| Ceredigion Penfro | 7 |
| Pontypridd Cynon Merthyr | 4 |
| Afan Ogwr Rhondda |