Cyflwyno cynllun Incwm Sylfaenol ar gyfer y Celfyddydau yng Nghymru, wedi'i fodelu ar fenter lwyddiannus Iwerddon.
Wedi'i chwblhau
472 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae Iwerddon wedi lansio cynllun peilot Incwm Sylfaenol ar gyfer y Celfyddydau sy'n rhoi €325 yr wythnos i 2,000 o artistiaid a gweithwyr diwylliannol. Mae'r cynllun wedi lleihau pryder ariannol, cynyddu cynhyrchiant creadigol, a chryfhau economi ddiwylliannol Iwerddon. Gall Cymru arwain y DU drwy gyflwyno menter debyg. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i: • Gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb i archwilio fersiwn Gymreig o raglen Iwerddon. • Dylunio cynllun peilot 3 blynedd sy'n cynnig incwm sylfaenol rheolaidd i o leiaf 1,000 o bobl greadigol yng Nghymru. • Ariannu a gwerthuso'r cynllun peilot drwy Cymru Greadigol, mewn cydweithrediad â Chyngor Celfyddydau Cymru a Thîm Gwerthuso Incwm Sylfaenol Llywodraeth Cymru.
Rhagor o fanylion
Byddai'r fenter hon yn adeiladu ar Gynllun Peilot Incwm Sylfaenol llwyddiannus Cymru ar gyfer Pobl Ifanc sy'n Gadael Gofal (2022–2024) ac yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n ymrwymo'r llywodraeth i lesiant diwylliannol ac economaidd cynaliadwy. Nid cardod yw cefnogi artistiaid — seilwaith ydyw. Mae dosbarth creadigol diogel yn sbarduno arloesedd, twristiaeth, llesiant a hunaniaeth genedlaethol.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 446 o'r 472 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Caerdydd Penarth | 73 |
| Ceredigion Penfro | 59 |
| Caerdydd Ffynnon Taf | 51 |
| Gŵyr Abertawe | 34 |
| Gwynedd Maldwyn | 33 |
| Afan Ogwr Rhondda | 23 |
| Sir Gaerfyrddin |