Gwnewch addysg yn ddwyieithog i bawb
Wedi'i gwrthod
41 llofnod
Mae Cymru wedi’i bendithio gan ddwy iaith ryfeddol. Ond tra bod un ohonyn nhw’n ffynnu, mae’r llall yn cael trafferth. Rhan o’r broblem yw nad oedd y rhan fwyaf ohonom wedi cael y fraint o ddysgu’r Gymraeg yn naturiol fel plant. Mae hwn yn gyfle a gollwyd, gan fod 39% o’n hathrawon yn siaradwyr Cymraeg, mwy na dwywaith y cyfartaledd cenedlaethol. Byddai cynnig addysg ddwyieithog i bob plentyn o fewn ein cyrraedd yn llwyr, er mai 1/3 yn Gymraeg a 2/3 yn Saesneg fyddai o. Felly, rydym yn galw am newid i’r system fel bod pob cenhedlaeth o ddisgyblion yn y dyfodol yn cael addysg gwbl ddwyieithog.