Adfer cydsyniad rhieni ar gyfer gwersi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) yn y Cwricwlwm i Gymru
Wedi'i chwblhau
614 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
O dan Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, fe gollodd rhieni'r hawl i dynnu eu plant yn ôl o wersi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM). Mae hyn yn berthnasol i bob ysgol, gan gynnwys ysgolion ffydd.
Mae rhieni’n haeddu’r hawl i gydsynio, a gwrthod cydsynio, i addysg grefyddol sy’n mynd yn groes i gredoau’r teulu, ac i gael eu hysbysu yn glir ymlaen llaw pan fydd yr ysgol yn gwahodd cynrychiolydd ffydd allanol i gyflwyno gwersi.
Rhagor o fanylion
O dan Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, mae rhieni wedi colli’r hawl i dynnu eu plant o wersi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM).
Yn ôl canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2021: “Nid oes hawl i dynnu plentyn yn ôl o addysg Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.” Mae hyn yn berthnasol i bob disgybl, gan gynnwys disgyblion mewn ysgolion eglwysig ac ysgolion ffydd.
Mae’n bwysig bod disgyblion yn dysgu am wahanol grefyddau a chredoau, ond rhaid i gydsyniad rhieni aros yn elfen ganolog o’r broses honno. Mae ffydd yn fater personol, a dylai teuluoedd gadw'r hawl i benderfynu sut mae eu plant yn ymwneud ag addysg grefyddol neu addysgu sy'n gwrthdaro â'u credoau nhw.
Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu'r polisi hwn, adfer cydsyniad rhieni ar gyfer CGM, a sicrhau bod ysgolion yn rhoi rhybudd clir ymlaen llaw pan fydd cynrychiolwyr ffydd allanol yn cael gwahoddiad i addysgu. Mae tryloywder a dewis yn hanfodol i gynnal ymddiriedaeth rhwng ysgolion, teuluoedd a chymunedau.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 547 o'r 614 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Fflint Wrecsam | 103 |
| Sir Gaerfyrddin | 96 |
| Gŵyr Abertawe | 81 |
| Brycheiniog Tawe Nedd | 43 |
| Blaenau Gwent Caerffili Rhymni | 37 |
| Afan Ogwr Rhondda | 31 |