Adolygu a diweddaru Darpariaethau 2-10 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008
Wedi'i chwblhau
2,185 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn gofyn i Lywodraeth Cymru adolygu a diweddaru darpariaethau 2-10 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Sef, dyletswydd awdurdodau lleol i asesu anghenion teithio dysgwyr a threfniadau trafnidiaeth, gan gynnwys terfynau teithio. Teithio ôl-16 ac addysg feithrin. Cydraddoldeb mewn trefniadau teithio a hyrwyddo'r Gymraeg. Yn 2021, ymrwymodd Gweinidogion Cymru i adolygu'r Mesur, gan dynnu sylw at y problemau; fodd bynnag, mae'n parhau i fod heb ei newid.
Rhagor o fanylion
Mae'r cais hwn yn dilyn pryderon parhaus gan aelodau o'r cyhoedd a chyrff annibynnol, gan gynnwys Comisiynydd Plant Cymru, ynghylch lles plant, megis diogelwch, effaith ar lesiant meddyliol, addysg, ac iechyd corfforol plant. Yn 2021, nododd Gweinidogion Cymru broblemau o ran y Mesur presennol, yr oedd rhai ohonynt yn ymestyn y tu hwnt i gwmpas y ddeddfwriaeth bresennol, gan ddweud bod dull gwneud dim yn amhriodol. Daeth i'r casgliad bod gwaith dros dro yn cyfiawnhau adolygiad cynhwysfawr o'r Mesur, gan atal mwy o "anghydraddoldeb, darpariaeth anghyson a chodau a chanllawiau pellach sydd wedi dyddio". Fodd bynnag, dywedodd yr Aelodau nad oedd amser o fewn y weinyddiaeth i ddechrau proses ffurfiol i newid y Mesur cyn i'r cyfnod cyn yr etholiad ddechrau, felly mae'n parhau i fod heb ei newid.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 2,146 o'r 2,185 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Pontypridd | 1,061 |
| Ogwr | 313 |
| Cwm Cynon | 300 |
| Rhondda | 244 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 44 |
| Caerffili | 28 |
| Gorllewin Caerdydd |