Achub chwaraeon ar lawr gwlad – Rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i’r adwy!
Wedi'i chwblhau
398 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae chwaraeon ar lawr gwlad dan fygythiad ym Mwrdeistref Sirol Caerffili a thu hwnt. Mae ein cyngor lleol yn ceisio mantoli'r cyfrifon trwy godiadau uwch na chwyddiant i ffioedd lleiniau, gan roi baich annheg ar glybiau cymunedol. Daw hyn er bod cyfleusterau fel Abercarn Welfare mewn cyflwr dychrynllyd y tymor hwn.
Rhagor o fanylion
Mae gwirfoddolwyr eisoes yn rhoi o’u hamser a’u hymdrech i gadw chwaraeon ar lawr gwlad yn fyw—pam y dylid disgwyl iddynt lenwi’r bwlch ariannu a adawyd gan ein cynghorau? Os na all awdurdodau lleol gefnogi chwaraeon cymunedol mwyach, rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i’r adwy i sicrhau bod y clybiau hanfodol hyn yn goroesi. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud fel a ganlyn: ⚽ Darparu arian brys i dalu ffioedd cynyddol am leiniau 🏉 Datblygu strategaeth hirdymor i amddiffyn clybiau chwaraeon cymunedol 🏏 Dal cynghorau yn gyfrifol am gynnal a chadw cyfleusterau chwaraeon Heb weithredu, bydd clybiau’n dod i ben, cyfleoedd i chwaraewyr ifanc yn diflannu, a chwaraeon ar lawr gwlad yn dioddef. Llofnodwch y ddeiseb hon i fynnu cefnogaeth frys ar gyfer dyfodol ein cymunedau! #SaveOurSports #FundGrassroots #FairPlayForClubs
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 393 o'r 398 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Caerffili | 138 |
| Islwyn | 104 |
| Gorllewin Casnewydd | 78 |
| Merthyr Tudful a Rhymni | 25 |
| Torfaen | 7 |
| Blaenau Gwent | 6 |
| Gogledd Caerdydd |