Rydym yn galw ar Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Llywodraeth Cymru i greu cynllun hyfyw a chynaliadwy ar gyfer dyfodol hirdymor campws Llambed
Wedi'i chwblhau
4,059 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi cynllun i ddod â’r holl addysgu israddedig ar ei champws yn Llanbedr Pont Steffan i ben erbyn mis Medi 2025, sef penderfyniad a fyddai’n dileu bron i 200 mlynedd o ran rôl Llanbedr Pont Steffan fel canolfan addysg uwch, ac yn effeithio’n andwyol ar y gymuned leol. Fel cyn-fyfyrwyr, myfyrwyr, a chefnogwyr, rydym yn galw ar Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Llywodraeth Cymru i ddiogelu etifeddiaeth Llanbedr Pont Steffan, ac ymrwymo i ddyfodol cynaliadwy ar gyfer y campws hanesyddol hwn.
Rhagor o fanylion
Mae Llanbedr Pont Steffan nid yn unig yn sefydliad prifysgol hynaf Cymru ond hefyd yn biler yn ei hanes addysgol a diwylliannol. Drwy ganiatáu i addysgu israddedig ddod i ben, byddai Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn tanseilio hanfod cenhadaeth Llanbedr Pont Steffan, yn gwanhau’r economi leol, ac yn dileu ei rôl hanesyddol fel canolfan addysgu. Mae tref Llambed, cymuned y cyn-fyfyrwyr, a phobl Cymru yn haeddu gwell. Ein nod: Rydym yn annog Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Llywodraeth Cymru i atal y terfyn arfaethedig ar addysgu israddedig yn Llanbedr Pont Steffan, ac yn lle hynny i weithio gyda’r holl randdeiliaid i greu cynllun hyfyw a chynaliadwy ar gyfer y campws. Rhaid i hyn gynnwys buddsoddiad sylweddol mewn cyrsiau newydd, mewn marchnata, ac mewn ymdrechion i recriwtio myfyrwyr er mwyn sicrhau perthnasedd ac apêl Llanbedr Pont Steffan ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 1,671 o'r 4,059 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Ceredigion | 643 |
| Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr | 213 |
| Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro | 71 |
| Brycheiniog a Sir Faesyfed | 47 |
| Llanelli | 47 |
| Gogledd Caerdydd | 42 |