Gosod rheolau llymach i gyfyngu ar y rhoddion a’r taliadau a gaiff Aelodau o’r Senedd
Wedi'i chwblhau
343 llofnod
- Mwy na 250 o lofnodion: caiff ei hystyried gan y Pwyllgor DeisebauWedi'i gyrraedd
- Mwy na 10,000 o lofnodion: caiff ei hystyried ar gyfer dadl yn y SeneddHeb ei gyrraedd
Mae’r rhoddion sylweddol a gafodd Aelod blaenllaw o’r Senedd yn ddiweddar wedi bod yn destun cryn bryder ymhlith y cyhoedd. Rhaid dysgu gwersi yn sgil hyn.
Rhagor o fanylion
Rhaid i Gymru gynnal a gwella ei henw da am dryloywder ac uniondeb. Mae dyletswydd ar bob Aelod o’r Senedd i sicrhau na fydd unrhyw wrthdaro, neu unrhyw ganfyddiad o wrthdaro, rhwng ei ddyletswyddau cyhoeddus a’i fuddiannau preifat. Rhaid sicrhau na all neb dalu, neu ymddangos fel petai’n talu, am ddylanwad gwleidyddol. Dylid asesu’n ofalus o ble y daw’r holl fuddiannau y mae Aelodau’n eu cael.
Llofnodion fesul etholaeth
Mae gwefan deisebau'r Senedd yn rhestru 334 o'r 343 llofnod o dan etholaeth y Senedd.
| Etholaeth | Llofnodion |
|---|---|
| Gogledd Caerdydd | 46 |
| Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr | 37 |
| Gorllewin Caerdydd | 30 |
| De Caerdydd a Phenarth | 25 |
| Gorllewin Casnewydd | 19 |
| Arfon | 11 |
| Canol Caerdydd | 10 |
| Ceredigion |