30 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Wel, gwnaed ymdrechion cyson i estyn llaw i'r cwmni, ac rydym wedi cael sgyrsiau gyda hwy am y lanfa a'r sefyllfa i longau mordeithio. Fe gofiwch inni gytuno ar drefniant amgen i sicrhau na chafodd y tymor ei ganslo y llynedd. Yr her i ni yw sicrhau bod y…
30 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch am eich cwestiwn a’r gyfres o bwyntiau. Gan ddechrau gyda’r hyn a ddywedais yn fy ymateb agoriadol, rwy'n cydymdeimlo gyda gweithwyr ar adeg drallodus. Mae bob amser yn anodd pan fyddwch yn colli swydd pan nad ydych eisiau gwneud hynny, ond yn enwedig…
30 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Na, bydd yn mynd i mewn i fy nghlustiau. Diolch am y cwestiwn. Deallaf y bydd hwn yn gyfnod pryderus iawn i weithwyr, eu teuluoedd a chymuned ehangach Caergybi. Mae fy swyddogion wedi estyn llaw i'r cwmni ac yn barod i gynnig cymorth i'r bobl yr effeithir…
30 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Mae'n ddrwg gennyf, nid oes gennyf fy nghyfieithiad, ond mae wedi'i ysgrifennu. A gaf fi glustffon ar gyfer y cwestiwn dilynol? Mae'n ddrwg gennyf.
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Credaf fod cywair eich sylw olaf yn dadwneud rhai o'r pwyntiau mwy cadarnhaol a wnaethoch yn gynharach. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cefnu ar weithwyr o gwbl. Rwyf wedi cytuno i wario sawl miliwn o bunnoedd—rwyf wedi amlinellu hyn mewn datganiadau…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Rydym wedi gweithio'n galed iawn dros bron i flwyddyn bellach i geisio rheoleiddio'r cyflenwad ers penodi'r derbynnydd swyddogol ac ers bod bygythiad gwirioneddol i'r cyflenwad pŵer. Mae rheswm pam na all y Dirprwy Lywydd ofyn y cwestiwn hwn er ei fod yn ei…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Os yw gweithwyr yn colli eu swyddi, mae gennym ystod o fesurau cymorth y gallwn eu rhoi ar waith ac a roddwyd ar waith gennym yn y gorffennol. Ond yr hyn y ceisiwn ei wneud mewn gwirionedd mewn amryw o'r camau yr ydym yn eu cymryd yw ceisio osgoi colli nifer…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Mae fy swyddogion a minnau'n ystyried y dyfarniad, gan gynnwys safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag apêl bosibl o ddyfarniad yr Uchel Lys. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn o'r straen a'r ansicrwydd y mae cwsmeriaid y parc ynni wedi'u profi…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Y realiti yw efallai na fyddwn yn gallu sicrhau nad yw prifysgolion, a'r sector addysg bellach yn wir, a oedd hefyd yn elwa'n sylweddol o gronfeydd Ewropeaidd, ar eu colled. Mae hynny oherwydd y dewis sydd wedi'i wneud. Mae'n ddewis clir i beidio â chynnwys…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Fel y gŵyr yr Aelod, mae Llywodraeth y DU wedi diystyru Llywodraeth Cymru a'r Senedd gyda'r ffordd y mae'r gronfa hon wedi gweithredu yn ei chyfnod treialu. Nid yw'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol parhaus ledled y DU fel y mae wedi'i ffurfio…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Wel, rwy'n croesawu galwad gyson yr Aelod am weld prisio tir yn cymryd lle ardrethi busnes, ac wrth gwrs, fel y dywedais yn gynharach, mater i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yw a ddylid diwygio ardrethi busnes ai peidio. Ond rwy'n parhau i ymddiddori…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi gwerth £136 miliwn yn canolbwyntio ar arallgyfeirio a thwf cynaliadwy canol trefi a dinasoedd, drwy ymyriadau sy'n cynnwys ailddefnyddio adeiladau segur a gwag, cynyddu amrywiaeth a mynediad at wasanaethau mewn trefi a…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Wel, wrth gwrs, bydd gan bob awdurdod lleol ei fandad ei hun yn y dyfodol agos, ac rwy'n gobeithio gweithio gyda nifer fwy byth o arweinwyr Llafur Cymru yn y dyfodol. Ond fel y gwelsom yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi gweithio'n effeithiol gydag…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Ein gweledigaeth yw economi llesiant sy'n gyrru ffyniant, sy'n amgylcheddol gadarn ac yn helpu pawb i wireddu eu potensial. Mae egwyddorion ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 arloesol yn llywio'r penderfyniadau a wnawn wrth gefnogi ein…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Mater i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yw diwygio ardrethi busnes. O ran y system rhyddhad ardrethi, wrth gwrs, rydym wedi cyhoeddi rhyddhad ardrethi i ystod o fusnesau a byddem yn annog busnesau i sicrhau eu bod yn manteisio ar eu hawl i'r rhyddhad…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Mae COVID wedi cyflymu'r duedd a welwn, gyda'r newid yn y defnydd o ganol trefi a dinasoedd ac yn arbennig, pan oedd y pandemig ar ei anterth, roedd hi'n amlwg ei fod yn lleihau'r galw am fanwerthu ar y stryd fawr. Dyna pam, ym mis Ionawr 2020, y gwnaethom…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Wel, mewn gwirionedd, y pwynt ehangach am iechyd meddwl yw ei fod yn rhywbeth i bob un ohonom, o ran cael rhywfaint o gydbwysedd yn yr hyn a wnawn a gallu bod yn llwyddiannus yn y gwaith a'r tu allan i'r gwaith hefyd. Mae'n ymwneud â mwy na'r rheini sy'n cael…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Na, nid ydym wedi cyrraedd y fan honno. Rydym yn cael sgwrs am yr hyn sy'n gydbwysedd iach yn y ffordd y mae byd gwaith wedi newid yn ystod y pandemig, a pha mor barhaol y bydd y newid hwnnw. Ac mewn gwirionedd, rhai o'r heriau ynghylch goruchwylio pobl pan…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Croeso nôl. Mae iechyd a lles gweithwyr yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Y mis diwethaf, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a minnau £1.4 miliwn o gyllid dros y tair blynedd nesaf er mwyn i'r rhaglen Amser i Newid Cymru barhau. Rydym…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Wel, cafwyd sylwadau pwysig ar yr union bwnc hwn ddoe gyda fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ac mewn cwestiynau mewn mannau eraill. Edrychwch, cyfarfûm â'r fforwm economi ymwelwyr heddiw ac mae hwn yn bwnc y maent wedi'i godi. Ceir…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Mae ein strategaeth, 'Croeso i Gymru: Blaenoriaethau i’r Economi Ymwelwyr 2020-2025', yn nodi ein gweledigaeth a'n huchelgais ar gyfer y sector. Hefyd wrth gwrs, mae gennym gynllun adfer llunio’r weledigaeth a gyhoeddwyd flwyddyn yn ôl. Yn y gyllideb ar gyfer…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Diolch am eich cwestiwn ac am ein hatgoffa o rai o'r heriau sylweddol yr ydym yn eu hwynebu, a bydd y diffyg o £1 biliwn o arian yn lle cronfeydd yr UE yng Nghymru yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r hyn y gallwn ei wneud a pha mor gyflym y gallwn wneud hynny…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Mae heriau yn y maes hwn rwy'n eu trafod â’r Gweinidog addysg a dysgu gydol oes, a’n hymgysylltiad ar y cyd â’r sector addysg bellach yn arbennig. Mae'n ymwneud â'r ffordd y mae cyllid yn dal i fod yn amhendant—ac rydym wedi cael y drafodaeth hon fwy nag…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Ar 8 Mawrth, lansiais y cynllun cyflogadwyedd a sgiliau, ac fe fyddwch yn cofio imi wneud datganiad llafar yn y Siambr hon hefyd, lle y cawsoch gyfle i ofyn cwestiynau. Amlinellais ein blaenoriaethau i helpu mwy o bobl yng Nghymru i uwchsgilio, i gael gwaith…
23 Mawrth 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Wel, hoffem allu gwneud yn union hynny. Er mwyn gwneud hynny, fodd bynnag, mae angen nid yn unig lefel o onestrwydd ond lefel o allu ymarferol i gydweithio, ac ni all hynny fod ar y sail fod Llywodraeth y DU yn penderfynu beth sy'n mynd i ddigwydd ac yna'n…