21 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch am y cwestiwn. Deallwn fod Bearmach Cyf wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Mae cynghorwyr Cymru'n Gweithio wedi rhoi cymorth ar y safle i weithwyr Bearmach dros gyfnod o dair wythnos, a byddwn yn parhau i weithio gyda staff yr effeithiwyd arnynt, i roi…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Rydym yn ceisio mynd ati mewn modd cyflawn o ran ein ffordd o hyrwyddo a chefnogi busnesau Cymru fel allforwyr, ac fel mewnforwyr hefyd. Mae'n rhan o'r rheswm pam ein bod wedi bod yn pryderu am effaith rhai o'r cytundebau masnach y cytunwyd arnynt eisoes, er…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Yn hytrach nag ystyried polisi masnach mewn termau economaidd yn unig, mae ein dull o weithredu yn dibynnu ar ddefnyddio lens llesiant cenedlaethau'r dyfodol i ystyried yr effaith lawn y gallai polisi masnach ei chael ar Gymru. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Mae'r weledigaeth ar gyfer y banc cymunedol yn un sydd wedi cael cefnogaeth o bob ochr i'r Siambr, ac mae hynny ynddo'i hun yn gymharol anarferol. Yn ogystal â chael y weledigaeth serch hynny, mae'r her, rwy'n credu, yn ymwneud â sicrhau ein bod yn gallu…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Diolch. Y weledigaeth ar gyfer y banc cymunedol, sydd bellach yn cael ei ddatblygu gan ein partneriaid, Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, yw y bydd yn fanc gwasanaeth llawn sydd â'i bencadlys yng Nghymru ac y bydd yn darparu cynnyrch a gwasanaethau bancio…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Credaf mai'r ateb bras i'r cwestiwn yw 'ydy'. Mae'r Llywodraeth eisiau gallu chwarae rhan. Yn aml, os yw Llywodraeth Cymru yn cynnull sgyrsiau, mae'n golygu bod pawb yn dod at y bwrdd, a gall hynny fod o gymorth. Rydym eisiau sicrhau bod rhanddeiliaid mor…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn bartner hirsefydlog, ochr yn ochr â chyngor sir Ynys Môn, awdurdod y porthladd a phartneriaid eraill, mewn cynlluniau i geisio dyfodol economaidd cynaliadwy i Gaergybi. Gyda'n gilydd, fe wnaethom gomisiynu astudiaeth eang ei…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Wel, mae'r enghraifft a roesoch yn enghraifft o'r hyn y mae angen inni weld mwy ohono, gyda diwydiant yn cydweithio â'r sefydliadau a ariannwn—y coleg, er enghraifft, y cyllid y bydd yn ei gael drwy Lywodraeth Cymru—ond mae hefyd, rwy'n credu, yn tynnu sylw…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Diolch. Ein blaenoriaethau o hyd yw cefnogi busnesau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes drwy wasanaethau Busnes Cymru a'r tîm rhanbarthol. Rydym wedi darparu cymorth helaeth drwy'r pandemig a'r byd masnachu yn dilyn Brexit. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu economi…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Nid wyf yn credu y gallwn gytuno â'r ffordd y mae'r pwynt wedi'i eirio, oherwydd mae'n dod ato o safbwynt penodol. Ond rwy'n credu bod y pwynt am ba mor rheolaidd yr ydym yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr a'r cyhoedd yn ehangach am realiti ein…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Wel, mae'r Prif Weinidog wedi cyfeirio, sawl gwaith yn y Siambr hon, at y dystiolaeth ddiweddar ar yr effaith uniongyrchol y mae Brexit wedi'i chael ar gostau bwyd yn gyffredinol, yr heriau o ran mewnforio ac allforio i fusnesau bwyd a diod yn y DU yn…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Rydym bob amser wedi cydnabod, ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, y byddai'r gallu i fasnachu yn dal i fod yno, ond y byddai rhwystrau ychwanegol i hynny. Yr her mewn perthynas â gadael yr Undeb Ewropeaidd yw bod mwy o rwystrau nag a fyddai wedi bod fel arall…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Nid yw swydd y Prif Weinidog yn wag, ac ni fydd yn wag am y dyfodol y gellir ei ragweld. Edrychwch, o ran realiti ein safbwynt, rwyf wedi dweud y bu gostyngiad mewn masnach, ac mae gan Gymru fwy o fasnach gyda'r UE o gymharu â gwledydd eraill Prydain, felly…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Mae economi Cymru yn dilyn economi'r DU yn eithaf agos ar y cyfan. Amcangyfrif cyfredol Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol Llywodraeth y DU yw bod Brexit wedi lleihau cynnyrch domestig gros y DU tua 1.5 y cant hyd yma, gyda gostyngiad pellach o 2.5 y cant i ddod…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Wel, mae'n ddefnyddiol fy mod wedi ymweld â'r rhanbarth ddwywaith yn awr, ac mae ein swyddfa yn Doha yn gweithio ar ystod o feysydd. Er nad oes gennym niferoedd enfawr o staff yn ein swyddfeydd, mae gan saith o'r gwledydd sydd wedi cymhwyso ar gyfer rowndiau…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Ie, o ran y gwaith a wnawn, wrth gwrs, mae'n amserlen gymharol ddiweddar. Mae gwaith wedi'i wneud a'i ragweld ymlaen llaw, ond tan yr achlysur gwych yn Stadiwm Dinas Caerdydd pan wnaethom sicrhau ein lle yng nghwpan y byd, ni allem fod yn sicr o'n sefyllfa…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Diolch. Rydym yn gweithio’n frwd gyda nifer o bartneriaid yn y DU, Qatar a mannau eraill yn y byd i sicrhau'r cyfleoedd masnachu a buddsoddi gorau posibl i Gymru yn sgil cwpan byd dynion FIFA 2022.
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Wel, credaf fod hyn yn ymwneud â gweithio ochr yn ochr â'r sector i geisio'i gynllunio yn yr un ffordd yn union ag y gwnaethom gyda'r sector manwerthu, lle mae gennym strategaeth ar waith. Efallai nad dyna y maent yn dymuno'i wneud, ond er mwyn deall yr hyn y…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Rydym wedi cynnal ymgyrch ar y cyd gyda'r sector ar gyfer recriwtio ac edrych ar anghenion sgiliau'r dyfodol. Mae'n bwynt sydd wedi'i godi gyda mi yn rheolaidd, ac wrth gwrs, mae'r sector yn eithaf amrywiol. Gallwch fynd o leoliadau bwyta o safon uchel, er…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Wrth gwrs, rwy'n ymwybodol o'r cyhoeddiad ar borthladdoedd rhydd. Fi oedd Gweinidog Llywodraeth Cymru a gwnaeth y cyhoeddiad hwnnw gyda Michael Gove yn ei rôl ar y pryd. A hynny oherwydd ein bod wedi cael, o'r diwedd, ar ôl yr holl sŵn blaenorol, lle roedd yr…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Credaf mai un o'r agweddau allweddol yw'r ffaith, yr ochr hon i'r etholiadau awdurdodau lleol, fod Jane Mudd a'i thîm wedi darparu sefydlogrwydd ac arweinyddiaeth barhaus, ac mae hynny'n bwysig i ni—cael partneriaid sefydlog y gellir ymddiried ynddynt. Mae'n…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio ar y cyd â phartneriaid, megis y brifddinas-ranbarth, ac yn wir, Cyngor Dinas Casnewydd, er mwyn darparu manteision economaidd i’r ardal.
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Credaf ein bod mewn sefyllfa dda iawn yn ein perthynas ag ystod o randdeiliaid. Rwy’n cyfarfod â grwpiau undebau llafur yr wythnos nesaf. Cyfarfûm â Community, undeb llafur sy’n ymwneud â'r maes dur yn bennaf, i drafod dyfodol y sector ddoe. A chyfarfûm â’r…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Ie, rwy'n cydnabod y sylwadau agoriadol ynglŷn â'r realiti y bydd ynni niwclear yn rhan o'n cymysgedd ynni yn y dyfodol. Os edrychwch ar beth yw'r dewis arall, mae'r Almaen, er enghraifft, ar ôl ymbellhau oddi wrth ynni niwclear, bellach yn gorfod ailddechrau…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Wel, ni chredaf ei bod yn deg dweud bod y Prif Weinidog wedi gwadu bod y duedd ffeithiol honno’n bodoli. Roedd yn fwy i'w wneud â’r naratif a naws yr hyn y ceisiwn ei wneud i gydnabod bod hynny’n digwydd. A dweud y gwir, roedd yn rhan o’r genhadaeth…