16 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Ni chredaf fod y ddau beth ar wahân neu'n annibynnol ar ei gilydd. Mae Cwmni Egino yn gweithio gyda’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear ar ddatgomisiynu, ac mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo, a chredwn y bydd y gwaith sy’n digwydd yno yn esiampl i…
16 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Diolch. Rydym yn croesawu ymrwymiad Rolls-Royce i adweithyddion modiwlar bach. Mae Cwmni Egino yn agnostig o ran technoleg ar hyn o bryd ac mae'n cynnal ymarfer ymgysylltu â'r farchnad gyda nifer o ddarparwyr technoleg, gan gynnwys Rolls-Royce, i nodi'r…
16 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Wel, mae hynny'n dibynnu ar y dewisiadau y mae Gweinidogion y DU yn eu gwneud, wrth gwrs, o ran y penderfyniadau a wnânt, ond mae hefyd yn tanlinellu pam fod y datblygiad hwn yn bwysig, ac mae'n ei gwneud yn ofynnol inni weithio mewn partneriaeth ar draws…
16 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Credaf fod hon yn enghraifft dda o faes lle mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gallu gwneud pethau'n adeiladol gyda'i gilydd. Rydym yn cymryd yr awenau ar amrywiaeth o'r meysydd datblygu, gyda'r safle ei hun, gyda pheth o'r buddsoddiad a wnaethom i'w…
16 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Diolch am eich cwestiwn. Mae gan ogledd Cymru sylfaen weithgynhyrchu gref ac mae’n gartref i rai o’n cwmnïau mwyaf cynhyrchiol, yn enwedig yn y sector awyrofod ac amddiffyn. Rydym yn parhau i gefnogi’r busnesau hyn i greu swyddi medrus iawn o ansawdd uchel…
16 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Rwy'n credu bod dau gwestiwn yno. Credaf fod nifer o bwyntiau nad oeddent yn gwestiynau. Ond edrychwch, y gwir amdani yw fy mod, mewn ymateb i’r Aelod etholaeth, Rhun ap Iorwerth, wedi dweud yn glir ein bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid lleol, gan gynnwys…
16 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Ie, credaf fod rhai o'r materion hynny'n faterion ar gyfer fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, o ran yr arwyddion, ond credaf ei fod yn bwynt teg i egluro nad yw'r ynys ar gau—mae modd mynd yno, ac yn wir, mae busnesau ym Mhorthaethwy ar agor…
16 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Iawn. Mae swyddogion yn gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Ynys Môn a rhanddeiliaid eraill i fonitro a deall yr effaith economaidd ar dref Porthaethwy yn benodol, yn ogystal â'r ardaloedd cyfagos.
15 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Ymgysylltu o ran Cwpan y Byd Qatar
Fe wnaf i roi sylw i'r cwestiynau penodol, ac yna ymdrin â'r gorffeniad mwy unedig. Edrychwch, fel y gŵyr Laura Anne Jones yn iawn, rydym ni wedi ymrwymo yn y gyllideb gyfalaf i fuddsoddi'n sylweddol mewn gwella cyfleusterau chwaraeon. Mae'r rhaglen fuddsoddi…
15 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Ymgysylltu o ran Cwpan y Byd Qatar
Rwy'n cydnabod y safbwynt mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi'i chymryd. Fel y dywedais, mae'n gwbl ddilys i bobl fod â barn wahanol ynghylch a ddylai Gweinidogion Cymru fod yno ai peidio. Wedi'r cyfan, rydym ni’n ffodus i fyw mewn democratiaeth…
15 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Ymgysylltu o ran Cwpan y Byd Qatar
O ran y sicrwydd a roddwyd i ni, rydym ni wedi cael yr un neges, a dweud y gwir, am arddangos hoffter cyhoeddus rhwng unrhyw gwpl, a phan ymwelais â Qatar o'r blaen, roedden nhw’n glir iawn nad yw arddangos hoffter yn gyhoeddus yn digwydd rhwng dynion a…
15 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Ymgysylltu o ran Cwpan y Byd Qatar
Diolch am y gyfres o gwestiynau. Edrychwch, rydym ni wastad wedi cydnabod mai penderfyniad FIFA yw cynnal y twrnamaint mewn unrhyw wlad. Nid wyf yn credu bod ymyriadau diweddar Sepp Blatter wedi bod yn ddefnyddiol, nac ychwaith yn credu eu bod nhw wedi'u…
15 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Ymgysylltu o ran Cwpan y Byd Qatar
Diolch am y sylwadau a’r gyfres o gwestiynau. Fe wnaf fi geisio gwneud cymaint ohonyn nhw mor brydlon ag y gallaf, gan weld llygaid treiddgar y Dirprwy Lywydd yn edrych arnaf. O ran gwariant y teithiau a'r manylion, rydym ni’n cyhoeddi'n rheolaidd, gyda phob…
15 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Ymgysylltu o ran Cwpan y Byd Qatar
Ynghyd â chenhedloedd blaengar eraill â thimau yn y twrnamaint hwn rydym ni wedi codi pryderon difrifol am hawliau gweithwyr a hawliau LHDTC+ yn Qatar. Cododd y Prif Weinidog y materion hyn yn uniongyrchol gyda'r llysgennad ar ran Qatar i'r DU. Ers hynny rydw…
15 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Ymgysylltu o ran Cwpan y Byd Qatar
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ar 27 Medi, fe wnes i gyflwyno datganiad yn amlinellu ein gweithgareddau arfaethedig i hyrwyddo Cymru yn ystod Cwpan y Byd FIFA i ddynion yn Qatar. Gyda'r twrnamaint bellach ychydig ddyddiau i ffwrdd, rwy'n falch o gyflwyno datganiad…
15 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cynllun trwyddedu statudol i bob llety ymwelwyr yng Nghymru
Na, rwy'n credu bod hwnna'n bwynt teg ynglŷn â'r ffordd yr ydym ni'n cynnal yr ymgynghoriad fel nad yw'n ymarferiad ar bapur neu ar-lein yn unig, ac ie, wrth gwrs, fe fydd hwnnw'n agored i bawb, felly ni fyddai raid i chi fod yn bresennol mewn digwyddiad…
15 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cynllun trwyddedu statudol i bob llety ymwelwyr yng Nghymru
Diolch i chi. Mae hi'n bleser gweld yr Aelod, ac mae peth o'r gwaith hwn, wrth gwrs, yn dilyn ymlaen oddi ar ei gyfnod ef yn y Llywodraeth ac yn gweithio ochr yn ochr â'r economi ymwelwyr. Ond, gan gydnabod, fel gwna ef, nad yw'r effaith ar yr etholaethau i…
15 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cynllun trwyddedu statudol i bob llety ymwelwyr yng Nghymru
Diolch i chi am y sylwadau. Roedd un cwestiwn ar y diwedd ynghylch mecanwaith cwynion rwy'n credu ac mae hynny'n rhan o'r pwynt ynghylch cael trwydded gydag eiddo cofrestredig sy'n caffael trwydded—ar gyfer cyrraedd y safonau a gwneud yn siŵr wedyn ei fod yn…
15 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cynllun trwyddedu statudol i bob llety ymwelwyr yng Nghymru
Diolch i chi. Rwyf i am ymdrin â rhan adeiladol cyfraniad yr Aelod yn gyntaf ac, wrth gwrs, eich pwynt chi ynglŷn â phryd y cyhoeddwyd y bwriad cychwynnol gan y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru ym mis Gorffennaf. Ers hynny, fel y dywedais i yn fy…
15 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cynllun trwyddedu statudol i bob llety ymwelwyr yng Nghymru
Cyn hynny, a thros y flwyddyn ddiwethaf, rydym ni wedi bod yn archwilio ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid o ran sut y gallai cynllun o'r fath weithio yng Nghymru. Cafodd contractwyr eu penodi i ymgymryd â'r gwaith hwn y llynedd ac fe fuon nhw'n cynnal…
15 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cynllun trwyddedu statudol i bob llety ymwelwyr yng Nghymru
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle heddiw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y camau yr ydym ni'n eu cymryd i helpu i sicrhau economi ymwelwyr gynaliadwy a ffyniannus sy'n cefnogi ac yn gwella cymunedau ledled Cymru. Mae'r economi ymwelwyr yn…
9 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig—'Codi’r bar: Sicrhau dyfodol y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu'
Rwyf am orffen drwy ei gwneud yn glir i aelodau'r pwyllgor ein bod o ddifrif ynghylch yr adroddiad a ddarparwyd i ni, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd a wneir ar yr argymhellion, ac rwy'n edrych ymlaen at waith pellach gyda'r pwyllgor hwn…
9 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig—'Codi’r bar: Sicrhau dyfodol y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu'
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn innau hefyd ddiolch i aelodau Pwyllgor yr Economi, Masnach, a Materion Gwledig am eu hymchwiliad manwl a'u hadroddiad ar ddyfodol lletygarwch, twristiaeth a manwerthu a arweiniodd at y ddadl hon heddiw. Fel y gwyddom…
25 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Banc Datblygu Cymru—Buddsoddi Uchelgeisiol
Mae'r banc datblygu yn weithredol yn y maes hwn eisoes, yn cefnogi perchenogaeth gan y gweithwyr, ond mae'n rhaid iddo weithio ochr yn ochr ag eraill fel Cwmpas Cymru, fel gwyddoch chi. Fe fyddwn i'n hapus i gael sgwrs ehangach â chi. Fel gwyddoch chi, yn y…
25 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Banc Datblygu Cymru—Buddsoddi Uchelgeisiol
Fe geir dau bwynt bras yn y fan yna. Y cyntaf yw hyn, ydw, pan fyddaf i'n siarad â'r banc datblygu rwy'n hoffi gwybod i ble y bydd y buddsoddiad hwnnw'n mynd. Pe byddai hwnnw'n mynd i gyd yn ddestlus i ranbarth Caerdydd a'r cyffiniau yn unig, ni fyddai…